Cyngor Sir Powys ar agor i fusnes
24 Mehefin 2024
Dyna neges Emma Palmer, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, sy'n awyddus i roi hyder i drigolion fod y sefydliad sy'n cael ei arwain ganddi ar agor i fusnes yn sgil nifer o newidiadau i'r ffordd mae'r cyngor yn rhedeg.
"Ni fu byth yn rhwyddach cysylltu â ni ynghylch ein gwasanaethau, a bellach mae miloedd o bobl yn dewis cysylltu â ni trwy Fy Nghyfrif Powys ar-lein unrhyw bryd yn ystod y dydd neu'r nos," ychwanegodd.
"Ond gwyddom nad yw hynny'n gweithio i bawb, felly fel cyngor rydym yn parhau i dderbyn eich galwadau ffôn a'ch croesawu wyneb yn wyneb yn ein llyfrgelloedd ac mewn swyddfeydd y cyngor, gan gynnwys Neuadd y Sir, trwy drefnu apwyntiad."
Cysylltu â'r cyngor ar-lein
- Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Powys a'i ddefnyddio i gysylltu â ni pryd bynnag sy'n gyfleus ichi: https://cy.powys.gov.uk/mewngofnodi
- Sgwrsio gyda ni ar-lein neu gellir chwilio am gyfeiriad ebost y gwasanaeth rydych chi am gysylltu ef: Cysylltwch â Ni
Cysylltu â'r cyngor dros y ffôn
- Drwy ffonio 01597 826000 (os ydych chi'n gwybod enw'r unigolyn neu adran)
- Drwy ffonio 01597 827460 (ar gyfer ymholiadau cyffredinol)
Cysylltu â'r cyngor wyneb yn wyneb
Gallwch ymweld ag un o'n llyfrgelloedd - defnyddiwch y ddolen i chwilio am eich llyfrgell agosaf - https://www.storipowys.org.uk/?locale=cy - lle gallwn helpu gyda rhai trafodion (Dydd Llun - Gwener). Gall staff helpu cyfeirio trigolion at wasanaethau'r cyngor dan sylw, a'u cysylltu â staff y cyngor fydd yn gallu rhoi cymorth pellach ichi.
- Aberhonddu (Y Gaer)
- Llanfair ym Muallt
- Crughywel
- Y Gelli Gandryll
- Tref-y-clawdd
- Llandrindod
- Llanidloes
- Llanfyllin
- Machynlleth
- Y Drenewydd
- Llanandras
- Rhaeadr Gwy
- Y Trallwng (Y Lanfa)
- Ystradgynlais