Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiad Niwroddatblygiadol i blant ag Awtistiaeth (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Gall plant ym Mhowys gael eu hasesu bellach ar gyfer ASD ac ADHD drwy Wasanaeth Niwroddatblygiadol Powys o dan arweiniad y Bwrdd Iechyd.

Nod asesiad fydd rhoi diagnosis o un ai ASD neu ADHD. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol na ddylid gwadu gwasanaeth i'ch plentyn yn sigl diffyg diagnosis. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg oll yn gytûn fod gwasanaethau'n seiliedig ar angen ac nad ydynt yn ddibynnol ar ddiagnosis.

Mae'r broses asesu niwroddatblygiadol yn cynnwys mewnbwn oddi wrth amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gan gynnwys:

  • addysg,
  • gwasanaethau cymdeithasol,
  • nyrsys anableddau dysgu,
  • therapyddion iaith a lleferydd,
  • therapyddion galwedigaethol,
  • pediatryddon,
  • gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS).

Sut ydw i'n cael asesiad?

Bydd angen i weithiwr proffesiynol neu wasanaeth sy'n adnabod eich plentyn yn dda gyfeirio eich plentyn. Nid yw achosion cyfeirio yn cael eu derbyn yn uniongyrchol oddi wrth y plentyn, person ifanc na'i rieni. Gall fod yn ddefnyddiol trafod cais am gyfeirio gyda'r ysgol, eich ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu.

Rhaid i'r sawl sy'n cyfeirio ddisgrifio ymddygiad a disgrifio sut yr aethpwyd i'r afael ag ymddygiad a pha mor effeithiol fu'r mewnbwn. Yna bydd y tîm niwroddatblygiadol yn edrych ar yr achosion cyfeirio mewn cyfarfod achosion cyfeirio.

Caiff achosion cyfeirio eu gwrthod os fyddant yn cael eu hanfon heb ffurflen gyfeirio a'r dystiolaeth gefnogi ofynnol. Os fydd hyn yn digwydd, gellir ail-anfon yr achos cyfeirio ar ôl cwblhau'r ffurflen a'r dystiolaeth gefnogi ynghlwm.

Gall plant sy'n iau na 5 oed gael eu cyfeirio at y pediatrydd cyn dechrau ar asesiad llawn. Byddwch yn cael gwybod os taw dyma fydd yn digwydd yn eich achos chi.

Weithiau caiff achosion cyfeirio eu gwrthod os yw plentyn newydd ddechrau meithrinfa neu ysgol. Gyda'r yr achosion hyn, mae'n bosibl y cynghorir bod yr achos cyfeirio yn cael ei ail-anfon ar ôl i'r plentyn setlo yn yr ysgol a bod addysg wedi cael y cyfle i asesu ei anghenion.

Sut olwg sydd i'r asesiad?

Pan fydd eich plentyn wedi cael ei dderbyn i'r broses asesu, byddwch yn derbyn llythyr derbyn. Efallai y byddwch yn derbyn holiadur i chi ac athro eich plentyn ei ateb. Bydd yn ofynnol i chi roi'r holiadur i'r athro yn yr ysgol.

Yna, bydd angen cyfres o asesiadau ar eich plentyn gan gynnwys rhai o'r enghreifftiau canlynol:-

  • archwiliad corfforol gan bediatrydd neu ymgynghorydd CAMHS
  • arsylwi ar eich plentyn yn yr ysgol neu'r cartref
  • asesiad unigol gyda'ch plentyn
  • cyfweliad gyda rhieni

Mae'r hyd gofynnol o amser ar gyfer y broses yn ddibynnol ar y nifer o asesiadau gofynnol. Gallwch gadw mewn cysylltiad â'r tîm drwy Gydlynydd ND ar 01874 615731.

Ar ôl yr asesiad, byddwch yn derbyn adroddiad ysgrifenedig yn datgan eu canfyddiadau a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Bydd gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'ch plentyn, gan gynnwys ei ysgol yn derbyn hwn hefyd. Caiff cyfarfod adborth ei gynnal hefyd ble fyddwch chi a'r gweithwyr proffesiynol yn siarad am ganfyddiadau'r asesiad. Byddwch yn cael cynnig pellach i drafod yr adroddiad pe byddech yn dymuno hynny. Mewn rhai enghreifftiau, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i'ch plentyn gael sylw dilynol cyfredol.

Cysylltiadau

  • E-bost: Powys.ND.Service@wales.nhs.uk
  • Ffôn: 01874 615731 - gadewch neges a bydd eich galwad yn cael ei ateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith
  • Cyfeiriad: Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, The Annexe, Ysbyty Goffa Aberhonddu, Aberhonddu, LD3 7NS