Cymorth ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cefnogi unigolion o bob oed sydd ag Awtistiaeth, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae cydweithio'n hollbwysig i'r gwasanaeth newydd hwn. Mae'n cynnwys tai ac addysg, yn ogystal â gofal iechyd a chymdeithasol, y trydydd sector, defnyddwyr y gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth eang o bartneriaid.
Mae cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wrth wraidd y bartneriaeth hon.
Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys yn cynnig y canlynol:
- Asesiadau diagnostig ar gyfer oedolion
- Cefnogaeth i oedolion gyda diagnosis o Awtistiaeth a'r rheiny sy'n gofalu amdanynt
- Cefnogaeth i blant a phobl ifanc gyda diagnosis o Awtistiaeth a'r rheiny sy'n gofalu amdanynt
- Cefnogaeth i weithwyr proffesiynol
Nid yw Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys yn cynnig neu'n cefnogi'r canlynol:
- Pobl heb ddiagnosis ffurfiol
- Pobl ag Anabledd Dysgu
- Pobl sy'n derbyn cefnogaeth Iechyd Meddwl
- Asesiadau diagnostig o Awtistiaeth i bobl dan ddeunaw oed
- Gofal brys