Toglo gwelededd dewislen symudol

Dathlu gofalwyr sy'n rhoi cartref i oedolion bregus Powys

Dennis and Sean at the Lakeside event in Llandrindod Wells

3 Gorffennaf 2024

Dennis and Sean at the Lakeside event in Llandrindod Wells
Mae teuluoedd ac unigolion sy'n rhannu eu cartref gydag oedolion Powys sydd ag anableddau dysgu, afiechyd meddwl neu bobl hŷn wedi cael eu dathlu fel rhan o Wythnos Cysylltu Bywydau 2024 (24 - 28 Mehefin).

Cynhaliwyd digwyddiadau yn Y Drenewydd a Llandrindod er mwyn cydnabod gofalwyr Cysylltu Bywydau sy'n agor eu drysau i rai o oedolion mwyaf bregus y sir ac sy'n eu cefnogi i fyw mewn ffordd mor annibynnol â phosibl.

Tîm Cysylltu Bywydau Cyngor Sir Powys a drefnodd y digwyddiadau, a chlywodd y rhai oedd yn bresennol gan nifer fawr o bobl wahanol ynghylch effaith gadarnhaol y math yma o ofal ar bawb sy'n gysylltiedig ag ef.

"Mae ein gofalwyr Cysylltu Bywydau'n agor eu cartrefi a'u calonnau i'r oedolion maent yn eu cefnogi a'u mentora," meddai Sharon Frewin, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Powys, "a phan fydd hyn yn digwydd, mae pawb sy'n gysylltiedig â'r profiad - y gofalwyr a'r unigolion sy'n derbyn cymorth - fel arfer ar eu hennill.

"Fel gofalwr Cysylltu Bywydau, gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, a chyfoethogi eich bywyd eich hun yr un pryd. Yn aml bydd gofalwyr yn darganfod, trwy greu teulu estynedig a thrwy deimlad o berthyn a chysylltiad i'r unigolyn sy'n derbyn cymorth, eu bod yn meithrin gwell cysylltiadau â'u cymuned, maent yn dysgu ac yn profi pethau newydd eu hunain. Mae'n brofiad gwirioneddol unigryw a chyfoethog i bawb sy'n gysylltiedig â hyn.

"Os ydych chi erioed wedi ystyried cynnig y math yma o ofal a chymorth i oedolyn sydd ag anableddau dysgu, neu sy'n cael anawsterau iechyd meddwl, byddem yn eich annog i ymchwilio i'r cyfle a chysylltu â ni, oherwydd gall fod yn brofiad hynod werth chweil."

I ddysgu rhagor ynghylch bod yn rhan o dîm Cysylltu Bywydau ym Mhowys anfonwch ebost at: shared.lives@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 826539.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd ar wefan Cyngor Sir Powys: Cysylltu Bywydau

Gall gofalwyr Cysylltu Bywydau ddarparu cymorth hirdymor, seibiannau byr, cymorth brys a dydd i oedolion sydd ag anableddau dysgu a chorfforol, nam ar y synhwyrau, anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd, dementia, y sawl sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, neu broblemau gyda chamdrin sylweddau. Hefyd maent yn helpu pobl hŷn.

Maent yn derbyn lwfans, pan fydd yr unigolyn sy'n derbyn cymorth ganddynt yn aros gyda nhw. Hefyd mae ganddynt fynediad at gyfleoedd hyfforddi, gofal seibiant a delir, a chefnogaeth tîm Cysylltu Bywydau.

LLUN: Gofalwyr ac unigolion sy'n derbyn gofal Cysylltu Bywydau, a staff Cyngor Sir Powys, yn nigwyddiad Cysylltu Bywydau a gynhaliwyd yng Nghaffi'r Llyn, Llandrindod.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu