Cabinet i ystyried adroddiad gwrthwynebiad Ysgolion Y Drenewydd
3 Gorffennaf 2024
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cynyddu capasiti adeilad ysgol newydd arfaethedig Ysgol Calon y Dderwen er mwyn gallu cynnwys disgyblion Ysgol G.G Treowen hefyd.
Y bwriad yw, y byddai Ysgol Calon y Dderwen o fis Medi 2025, yn cael ei hymestyn er mwyn cynnwys adeilad cyfredol Ysgol G.G. Treowen. Byddai disgyblion sy'n mynychu Ysgol G. G. Treowen ar hyn o bryd yn parhau i fynd i'r ysgol honno yn adeilad presennol Treowen nes bydd adeilad newydd Ysgol Calon y Dderwen yn barod.
Pan fydd yr adeilad newydd yn agor, byddai safle Treowen yn cau a byddai'r holl ddisgyblion yn symud i'r adeilad ysgol newydd ar safle presennol Ysgol Calon y Dderwen.
Yn gynharach eleni, cymeradwyodd y Cabinet cyhoeddi hysbysiad statudol sy'n cynnig y newid ar sail ffurfiol, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol yma, derbyniwyd 38 gwrthwynebiad.
Ar ddydd Mawrth 9 Gorffennaf, bydd y Cabinet yn derbyn ac yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebiad, a gofynnir i'r Cabinet hefyd gymeradwyo'r cynnig.
Dywed Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Mae'r cyngor wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl mewn bywyd ar gyfer ein pobl ifanc, ac un o'r ffyrdd y gallwn wireddu hyn, yw trwy drawsnewid addysg.
"Cred y cyngor fod y cynnig hwn yn bodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys, wrth inni geisio gwella hawl a phrofiadau dysgwyr wrth gynnig cyfleusterau'r 21ain Ganrif sy'n golygu amgylchfyd lle gall dysgwyr ac athrawon ffynnu a chyrraedd eu potensial.
"Er hynny, mae'n bwysig i'r Cabinet glywed sylwadau'r sawl sydd wedi gwrthwynebu'r cynnig hwn, a chaiff y sylwadau hyn eu hystyried yn ofalus cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol."
I ddarllen Strategaeth Trawsnewid Addysg y Cyngor 2020-2032 ac i weld manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg