Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobr arall i Bartneriaeth Afon Hafren

The River Severn

8 Gorffennaf 2024

The River Severn
Mae Partneriaeth Afon Hafren wedi ennill ei hail wobr i gydnabod ei "gwaith arloesol" i gefnogi cymunedau sy'n byw ar lannau afon hiraf y DU.

Enillodd y categori Arloesi mewn Partneriaeth yng Ngwobrau Cyflawniad MJ (Municipal Journal) 2024, i ychwanegu at ei lwyddiant yng Ngwobrau Chronicle Llywodraeth Leol 2024 wythnos yn gynharach.

Nod y bartneriaeth amgylcheddol ac economaidd drawsffiniol yw meithrin gwytnwch a ffyniant i'r 2.6 miliwn o bobl sy'n byw ochr yn ochr ag Afon Hafren.

Mae'r Partneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Cyngor Swydd Amwythig, Cyngor Telford & Wrekin, Cyngor Swydd Henffordd, Cyngor Swydd Gaerwrangon, Cyngor Swydd Warwick, Cyngor Swydd Gaerloyw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England, Severn Trent Water, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, partneriaethau natur lleol, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, a sefydliadau academaidd fel Prifysgol Dinas Birmingham.

Dywedodd beirniaid Gwobr Cyflawniad MJ fod y bartneriaeth wedi dangos tystiolaeth dda o angen am ymyrraeth yn nalgylch Afon Hafren, ac uchelgais nid yn unig i wella canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ond i ddod ag arloesedd i bolisi.

Gwnaethant hefyd ei chydnabod am ei strategaeth feiddgar, a'i harweinyddiaeth gref, i gynhyrchu cyfres o allbynnau cynnar pwysig sy'n gosod y sylfeini ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Meddai'r Athro Mark Barrow, cyd-gadeirydd Partneriaeth Afon Hafren (PAH): "Mae gwaith arloesol PAH wedi cael ei gydnabod am ei effaith drawsnewidiol ar gymunedau a'r amgylchedd.

"Fel partneriaeth wledig strategol, mae PAH wedi arloesi dull integredig o ddatblygu gwytnwch mewn ardaloedd y mae llifogydd yn effeithio arnynt, gan ailddiffinio rheolaeth a defnydd afonydd fel asedau yn hytrach na rhwymedigaethau.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod eto gan ein cyfoedion ac wedi ennill yr ail wobr hon i'r diwydiant am arloesi."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu