"Bursting with..." Ymgyrch Lleihau Niwed
Trwy gydnabod y niwed potensial y gall fepio ei achosi i bobl ifanc, mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi datblygu, ar y cyd â 'Cowshed Communications', ymgyrch cyhoeddus gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ran peryglon fepio.
Lansiodd yr ymgyrch ym mis Ebrill 2024 a'i nod yw newid canfyddiad pobl ifanc bod fepio'n lân ac yn ddiogel; mae'r ymgyrch yn datblygu'r cysyniad er y gall fêp fod yn llawn lliw a blas ffrwythau, mae rhestr o sgil-effeithiau a goblygiadau iechyd ynghlwm wrtho hefyd.
Gellir lawrlwytho deunyddiau'r ymgyrch yma:
Gall Cyngor Sir Powys ddarparu deunyddiau corfforol ichi eu defnyddio gyda chleientiaid neu i'w harddangos yn eich adeilad(au). I ofyn am asedau corfforol, cysylltwch â: healthprotection@powys.gov.uk