Dyfarnu £1m i brosiectau peilot technoleg ddi-wifr uwch
12 Gorffennaf 2024
Mae tair prifysgol, - Harper Adams, Hartpury a Cranfield yn cael eu cefnogi gyda phrosiectau a fydd yn arddangos sut y gellir defnyddio technoleg fodern i wella canlyniadau amgylcheddol a busnes yn y sector amaethyddol, yn ogystal ag i'r cyhoedd.
Bydd y prifysgolion yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr yn ardal Partneriaeth Afon Hafren i ddangos sut mae technoleg ddi-wifr uwch yn gallu cael ei haddasu i fonitro cnydau, cynnal diogelwch a rheoleiddio defnydd o ynni; a bydd yn cynnwys prosiect arweiniol mewn partneriaeth â thirfeddianwyr ger Telford i fonitro a rheoleiddio llif dŵr a bodloni gofynion amaethyddol mewn afonydd ac is-afonydd lleol.
Dywedodd yr Athro Mark Barrow, cyd-gadeirydd Partneriaeth Afon Hafren: "Mae Cyngor Swydd Amwythig yn goruchwylio rheoli Ranbarth Arloesi Di-wifr Partneriaeth Afon Hafren, ac mae'n galondid i weld bod prosiectau yn dechrau dod drwy'r system.
"Rhain yw ein prosiectau cyntaf i fynd yn fyw, ac mae ganddynt y potensial i arddangos sut yn union y gellir defnyddio'r dechnoleg gysylltedd ddi-wifr ddiweddaraf er budd ein hamgylchedd, ecoleg a'r economi.
"Bydd rhagor o gyfleoedd i fusnesau a sefydliadau gwirfoddol elwa o'r adnoddau y bydd Rhanbarth Arloesi Di-wifr Partneriaeth Afon Hafren yn eu tywys yn ystod y fenter hon sy'n flwyddyn o hyd."
Dyfarnwyd nawdd o £3.75m i Ranbarth Arloesi Di-wifr Partneriaeth Afon Hafren oddi wrth y Llywodraeth i gefnogi twf arloesi a thechnoleg ddi-wifr yn rhai o'i sectorau economaidd allweddol.
Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys wyth o gynghorau Cymru a Lloegr sy'n cynnwys ardal ddalgylch Afon Hafren, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, ac y mae'n un o 10 Rhanbarth Arloesi'r DU, i ennill nawdd.
Bydd Rhanbarth Arloesi Di-wifr Partneriaeth Afon Hafren yn canolbwyntio ar fabwysiadu technolegau uwch sy'n cael eu galluogi gan dechnoleg ar draws tri sector sydd â gwreiddiau arbennig o ddwfn yn ardal ddalgylch Afon Hafren:
- Rheoli Dŵr
- Technoleg Amaethyddol
- Sector Cyhoeddus