Llyfrgell y cyngor i symud i adeilad amgueddfa
15 Gorffennaf 2024
Bydd y symudiad yn dilyn yr un model o ddarparu gwasanaethau a fabwysiadwyd yn Aberhonddu, Llanidloes a'r Trallwng lle mae amgueddfa a llyfrgell yn rhannu lle, adnoddau a staff.
Ar hyn o bryd, mae Llyfrgell Llandrindod wedi'i lleoli yn y Gwalia. Fodd bynnag, cymeradwywyd y penderfyniad i waredu'r adeilad gan y cyngor yn gynharach eleni (Chwefror) felly roedd angen cartref newydd i'r llyfrgell ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae ein llyfrgelloedd a'n hamgueddfeydd yn fannau y gellir ymddiried ynddynt, sydd am ddim ac yn agored i bawb. Mae darparu gwasanaeth ar y cyd o un adeilad yn golygu y gallwn ddarparu dyfodol cynaliadwy a hirdymor ar gyfer y ddau tra'n parhau i ddarparu ac ymestyn y buddion iechyd a lles y gall llyfrgelloedd ac amgueddfeydd eu cynnig."
Mae'r cam hwn yn enghraifft gadarnhaol o sut y gellir ailfodelu gwasanaethau'r cyngor i wella canlyniadau wrth wneud arbedion yn y tymor hir. Mae'r ethos hwn yn ganolog i Bowys Gynaliadwy, dull y mae'r cyngor yn ei gymryd i fod yn arloesol ac yn rhagweithiol i ail-feddwl sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu i gwrdd â phwysau cyllidebol yn y dyfodol.
"Bydd Llyfrgell Llandrindod yn parhau i gynnig ystod dda o lyfrau yn y Gymraeg a'r Saesneg, adnoddau digidol, gwybodaeth a chymorth ar gyfer cyrchu gwasanaethau'r cyngor, ac argraffu wi-fi," meddai'r Cynghorydd Church.
"Mae Amgueddfa Sir Faesyfed yn casglu ac yn gofalu am wrthrychau sy'n adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol a threftadaeth y sir. Gyda'i gilydd, bydd y llyfrgell a'r amgueddfa yn trefnu ac yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, o amser stori cyn-ysgol i ddigwyddiadau sy'n ystyried dementia."
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Rydym am werthu'r Gwalia i helpu i gwtogi ar nifer yr eiddo sydd gennym yn y dref. Dechreuodd Llyfrgell Llandrindod fywyd yn yr amgueddfa bresennol ym 1911 fel llyfrgell gyhoeddus newydd Carnegie felly mae ei symud yn ôl i'r adeilad o'r Gwalia yn golygu y bydd yn parhau i fodoli mewn lleoliad gwych yng nghanol y dref. Bydd y gwaith o farchnata'r Gwalia yn cychwyn yn fuan.
"Mae Amgueddfa Sir Faesyfed yn cael ei chydnabod fel un o asedau twristiaeth fwyaf arwyddocaol y sir ac mae'n dod â manteision economaidd sylweddol i'r dref. Mae cydleoli Llyfrgell Llandrindod gyda'r amgueddfa yn golygu y gellir cynyddu'r oriau agor, gan annog mwy o ymwelwyr i'r ardal.
"Mae'n gyfle gwych i greu gofod diwylliannol newydd yn y dref lle gall pobl archwilio hanes cyfoethog Sir Faesyfed, benthyg llyfr, neu edrych ar rai o'n gwrthrychau hynod ddiddorol i gyd o dan yr un to."
Bydd amserlen ar gyfer y cyd-leoliad yn cael ei ddatblygu, ond disgwylir y bydd y gwaith o symud y llyfrgell wedi'i gwblhau cyn mis Ebrill 2025.