Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau ar gael hyd £5k i helpu i brynu a gosod uwch-dechnoleg di-wifr

A data hub set up using wireless technology

15 Gorffennaf 2024

A data hub set up using wireless technology
Mae Rhanbarth Arloesi Di-wifr Uwch Partneriaeth Afon Hafren wedi lansio cyfle gwerth £100,000 i fusnesau a grwpiau gwirfoddol yn Ardal Dalgylch Hafren i wneud cais am Grantiau Arloesi Di-wifr.

Mae symiau hyd at £5,000 ar gael i sefydliadau ledled y rhanbarth, sy'n cynnwys Powys gyfan, i gynorthwyo gyda phrynu a gosod technoleg di-wifr.

Er mwyn gwneud cais am Grant Arloesi Di-wifr, rhaid i ymgeiswyr fod wedi bod yn gweithredu ers mwy na blwyddyn yn y sectorau craidd rheoli dŵr, amaethyddiaeth neu'r sector cyhoeddus. Gellir eu defnyddio i dalu hyd at 75% o gyfanswm costau prosiectau masnachol, a 90% o'r grwpiau mentrau cymdeithasol gwirfoddol.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae Rhanbarth Arloesi Di-wifr Uwch Partneriaeth Afon Hafren yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth well o'r ffyrdd y gellir defnyddio technoleg di-wifr gan sectorau rheoli dŵr, amaethyddiaeth a'r sector cyhoeddus er mwyn creu gwell mynediad at wasanaethau a chyfleoedd masnachol a fydd yn gwella ansawdd bywyd a rhagolygon economaidd ein preswylwyr.

"Hoffwn annog busnesau a grwpiau gwirfoddol ym Mhowys i archwilio'r cyfle hwn o ddefnyddio technoleg newydd mewn ffyrdd a allai eu helpu i ffynnu. 

Mae Rhanbarth Arloesi Di-wifr Uwch Partneriaeth Afon Hafren ar hyn o bryd yn cefnogi prosiectau arloesol 'achos defnydd' gyda Phrifysgol Hartpury a Phrifysgol Cranfield a fydd yn arddangos sut y gellir defnyddio technoleg di-wifr uwch i wella canlyniadau amgylcheddol a busnes yn y sector amaethyddol, yn ogystal ag i'r cyhoedd.

Bydd y prifysgolion yn gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir yn ardal Partneriaeth Afon Hafren i ddangos sut y gall technoleg di-wifr uwch gael ei haddasu i fonitro cnydau, cynnal diogelwch a rheoleiddio'r defnydd o ynni a bydd yn cynnwys prosiect arweiniol mewn partneriaeth â pherchnogion tir ger Telford i fonitro a rheoleiddio llif dŵr i fodloni gofynion amaethyddol afonydd ac is-afonydd lleol.

Wedi ei ariannu gan Adran y Gyfraith, Arloesi a Thechnoleg a'i reoli gan Gyngor Swydd Amwythig, mae'r rhaglen hon yn rhan o brosiect ehangach £3.75m sy'n anelu at annog busnesau a sefydliadau i fabwysiadu technoleg sydd wedi ei galluogi gan gysylltedd di-wifr uwch.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu