Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Sir Powys yn cyhoeddi alldro ariannol ar gyfer 2023/24

Image of new British money

19 Gorffennaf 2024

Image of new British money
Bydd y Cabinet yn clywed bod Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i ddarparu cyllideb â gwarged cymedrol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf er gwaethaf yr amgylchedd economaidd heriol.

Roedd gan y cyngor danwariant o £1.8m ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, ar ôl cyfraniadau i gronfeydd wrth gefn penodol, o £0.5 miliwn yn erbyn y gyllideb o £242.1 miliwn - amrywiant o 0.7% - ac eithrio Ysgolion a'r Cyfrif Refeniw Tai.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid; "Eleni gwelwyd y Cyngor yn llwyddo i reoli ei gyllideb mewn amgylchedd economaidd hynod heriol. Mae chwyddiant uchel a dyfarniadau cyflog wedi parhau i effeithio ar gostau ar draws pob gwasanaeth, er bod hyn wedi'i reoli'n dda ar y cyfan trwy gamau lliniaru a defnyddio'r gyllideb risg.  Mae sefyllfa ariannol y Cyngor wedi cael ei fonitro'n agos drwy gydol y flwyddyn gydag adroddiadau chwarterol yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.

"Fe wnaethon ni gyflawni arbedion o £15.4m mewn blwyddyn ac mae hwn yn arbediad parhaol ac yn gylchol o flwyddyn i flwyddyn. Mae incwm ychwanegol, defnydd effeithiol o gyllid grant allanol a ffocws parhaus ar leihau ein gwariant wedi creu cyfleoedd i ryddhau cyllid un-tro i gefnogi'r pwysau cynyddol sydd eisoes yn wynebu cyllideb refeniw 2024/25 a'r blynyddoedd i ddod.

"Rydym wedi gallu neilltuo arian i gefnogi ein blaenraglen gyfalaf, buddsoddi mewn ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gweithgareddau newid hinsawdd, yn ogystal â chefnogi prosiectau a fydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio, gan baratoi'r Cyngor ar gyfer yr heriau ariannol sydd o'n blaenau.

"Mae'r cyfleoedd hyn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i ddad-beryglu sefyllfa ariannol y cyngor yn y tymor byr.  Ni fydd yr arian yr ydym yn disgwyl ei gael gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod yn ein galluogi i barhau i gefnogi ein preswylwyr yn yr un ffordd ag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.  Bydd angen i'r Cyngor wneud newidiadau sylweddol i leihau costau ac i fynd i'r afael â'r bwlch sylweddol yn ein cynlluniau cyllidebol. Er bod ein sefyllfa eleni yn ein galluogi i reoli pwysau parhaus yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, rhagwelir mai'r diffyg cyllidebol dros y 4 blynedd nesaf fydd oddeutu £41 miliwn.

"Mae'n rhaid i ni symud ymlaen yn gyflym i ddatblygu ein cynlluniau i sicrhau Powys Gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gallu parhau i fod yn sefydlog yn ariannol a darparu gwasanaethau cynaliadwy yn y tymor hir," ychwanegodd.

Mae'r ffeithlun isod yn esbonio rhaniad gwariant y cyngor ar gyfer 2023-24 a ddangosir fel cyfran o £100 o dreth y cyngor.  Gwariwyd y rhan fwyaf o gyllideb y cyngor y llynedd gan Ysgolion a Gofal Cymdeithasol, sy'n cyfateb i 68% o'r gyllideb gyffredinol.  Gwariwyd 11% ar ffyrdd, trafnidiaeth ac ailgylchu.

Rydym yn darparu addysg i 15,523 o ddysgwyr oedran ysgol statudol drwy 72 o ysgolion cynradd, 8 ysgol uwchradd, 3 ysgol pob oed a 3 ysgol arbennig.

Darperir gofal cymdeithasol oedolion ar gyfer 1,750 o bobl - oedolion hŷn a'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau corfforol a dysgu o fewn cyfleusterau gofal hirdymor. Rydym hefyd yn darparu gofal yn y gymuned i 2,771 o bobl i'w galluogi i fyw'n dda yn eu cartrefi am gyfnod hirach a darparu cymorth ac atal cynnar i 2,570 o bobl eraill i ohirio eu hangen am gymorth dwysach.

Mae gan Wasanaethau plant 876 o achosion plant ar agor gyda 401 arall yn agored i gymorth cynnar.  Mae gan 670 o blant gynllun cymorth gofal ac mae'r Cyngor yn gyfrifol am 247 o Blant sy'n Derbyn Gofal.

Gwaith cynnal a chadw ffyrdd o dros 5,800 cilometr (rhai gydag arwynebedd caled a rhai heb) a 14,500 o bolion goleuadau stryd ynghyd â 9,250 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus ac 1.1 miliwn o gasgliadau gwastraff gweddilliol a 3.5 miliwn o gasgliadau ailgylchu o dros 55,000 tunnell ar draws yr holl ffrydiau casglu, a darpar-gyfradd ailgylchu i Bowys o 68.5% ar gyfer 2023-24.

Mae'r ffeithlun isod yn esbonio rhaniad gwariant y cyngor ar gyfer 2023-24 a ddangosir fel cyfran o £100 o dreth y cyngor.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu