Cyngor yn rhoi hwb gyrfaol i geiswyr gwaith gyda lleoliadau gwaith a delir
22 Gorffennaf 2024
Mae un o'r ymgeiswyr llwyddiannus, Kyle, o'r Drenewydd, wedi ymuno â thîm Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Gwastraff y cyngor ar gyfer y cyfle chwe mis hwn. Cyn hyn, bu Kyle yn gweithio ar y lorïau ailgylchu fel aelod dros dro o'r criw yn ystod pandemig Covid, cyn iddo fynd dramor ar antur o gwmpas Seland Newydd.
Nawr ei fod wedi dychwelyd adref ac yn chwilio am gyfle i roi cychwyn ar ei yrfa, mae Kyle wrthi yn ei rôl newydd fel Cynorthwyydd Ymwybyddiaeth Gwastraff, gan fynd allan i'r gymuned yn curo ar ddrysau, gadael taflenni a gosod sticeri ar finiau i annog pawb i ailgylchu rhagor. Yn ei amser sbâr mae Kyle yn rhedeg marathonau felly nid yw cerdded milltiroedd bob dydd yn broblem iddo wrth iddo ddosbarthu negeseuon am ailgylchu i bobl Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys sy'n gyfrifol am AD: "Mae'n beth gwirioneddol gadarnhaol i weld pobl ym Mhowys yn cael y cyfle i ennill arian wrth iddynt ddysgu a magu sgiliau wrth wneud y swydd drwy helpu i ddarparu gwasanaethau llinell flaen i'r cyngor.
Roedd diddordeb mawr iawn yn y cyfleoedd am leoliadau gwaith a delir, ac rydym wedi recriwtio naw unigolyn ardderchog i'r rolau. Rydym ni'n gobeithio y bydd y profiad yn eu galluogi i wneud cynnydd yn eu gyrfa ac efallai hyd yn oed ymgeisio am swydd lawn amser gyda'r cyngor yn y dyfodol".
Ychwanegodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach: "Rwy'n wirioneddol wrth fy modd ein bod ni'n helpu ceiswyr swyddi i aros ym Mhowys drwy gynnig y cyfleoedd lleoliad gwaith ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol. Mae'n grêt cael pâr ychwanegol o ddwylo ar ein tîm Ymwybyddiaeth Gwastraff, yn enwedig gan ein bod ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ar geisio cyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru sef 70%."
Sicrhaodd Cyngor Sir Powys arian oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin (Llywodraeth y DU) i gynnig y lleoliadau hyn.