Toglo gwelededd dewislen symudol

Pumed Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Image of Lake Vyrnwy and the Powys Public Service Board logo

22 Gorffennaf 2024

Image of Lake Vyrnwy and the Powys Public Service Board logo
Yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024 cytunodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ar ei adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer 2023/24.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn bartneriaeth statudol o gyrff cyhoeddus sy'n gweithredu ym Mhowys, sy'n cydweithio â sefydliadau eraill a phobl Powys i wella llesiant mewn cymunedau lleol drwy gydweithio mewn modd mwy cynaliadwy.

Mae dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i adolygu'r cynnydd a wnaed yn erbyn eu Cynlluniau Llesiant yn flynyddol.  Adolygwyd Cynllun Llesiant Powys yn 2023 (i bob pwrpas tan 2027) gan wneud hwn yr adroddiad blynyddol cyntaf yn erbyn y Cynllun Llesiant newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys: "Fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae gennym obeithion ac uchelgeisiau mawr ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, gwyddom fod Powys yn wynebu heriau sylweddol, o ran lles pobl ac yn yr amgylchedd ffisegol yr ydym i gyd yn dibynnu arno.

"Mae pobl yn byw gydag effeithiau uniongyrchol yr argyfyngau hinsawdd a natur sy'n dyfnhau, ac mae'r cynnydd mewn costau byw yn golygu bod gwahaniaethau mewn iechyd, cyfoeth a hapusrwydd yn tyfu ac yn dod yn fwy anghyfartal. Mae angen atebion creadigol ar gyfer y problemau cymhleth hyn sy'n mynd at wraidd y materion er mwyn eu trwsio wrth eu ffynhonnell.

"Rwy'n edrych ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau wrth i ni weithio gyda'n gilydd i greu 'Powys Deg, Iach a Chynaliadwy' i bawb. Yn y cyfamser, mae'r diweddariad canlynol yn cyflwyno trosolwg o'r gwaith sydd wedi'i wneud ymhlith sefydliadau partner i ddatblygu'r Cynllun Llesiant a gyhoeddwyd gennym y llynedd.

Mae'r adroddiad cynnydd blynyddol 2023/24 yn darparu gorolwg o weithgareddau'r tri Cham:

  • Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd
  • Dull system gyfan i Bwysau Iach
  • Tystiolaeth a Mewnwelediad

Mae'r tri Cham a'u rhaglenni gwaith yn cyd-fynd â thri amcan Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda'r nod cyffredinol o gyflawni gweledigaeth y Bwrdd o Bowys Teg, Iach a Chynaliadwy.

Cafodd yr Adroddiad Blynyddol hefyd ei graffu gan Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys, gan helpu i ysgogi gwelliant yn y ffordd y mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys yn cyflawni ei ddyletswyddau ac yn hyrwyddo lles i drigolion Powys.

Gellir darllen yr adroddiad blynyddol yma Ein Hadroddiad Cynnydd Blynyddol

Os hoffech chi gymryd rhan neu dywedwch wrthym beth ry'ch chi'n ei feddwl trwy anfon e-bost at powyspsb@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu