Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwrando ar adborth ynghylch terfynau cyflymder 20mya mewn cymunedau

Image of a mum and daughter walking along the pavement

22 Gorffennaf 2024

Image of a mum and daughter walking along the pavement
Ym mis Ebrill 2024, datgelodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i wrando ar drigolion Cymru ac i gydweithio gyda chynghorau i wireddu newid a dargedir o ran gweithredu'r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya.

Mae trigolion a busnesau wedi cael ebostio Cyngor Sir Powys gydag awgrymiadau, ynghyd â rhesymau dilys, pam y dylai ffordd yn y sir newid o 20mya i 30mya, newid o 30mya i 20mya neu i gefnogi cadw 20mya.

Wedyn bydd yr holl adborth sy'n cael ei dderbyn erbyn 31 Awst yn cael eu hystyried yn erbyn y paramedrau yn y canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru wrth osod terfynau 30mya ar ffyrdd cyfyngedig. Cesglir yr holl fanylion o ran unrhyw ddarn o ffordd a dybir sy'n addas i'w newid, unai yn ôl i 30mya neu lawr i 20mya, ac yn cael eu nodi ar fap a'u rhannu gydag aelodau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned ar gyfer unrhyw sylwadau pellach. 

Yn dilyn hyn, bydd unrhyw argymhellion i newid terfynau cyflymder yn destun proses gorchymyn rheoleiddio traffig statudol (TRO), a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, cyn gweithredu unrhyw newidiadau.

Mae'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach yn annog trigolion a busnesau i gysylltu â ni os hoffech inni wrando ar eich sylwadau mewn perthynas â therfyn cyflymder lleol, fel rhan o'r adolygiad yma. "Mae gwrando ar ein cymunedau'n hynod bwysig inni ym Mhowys ac mae llawer ohonoch wedi cysylltu â ni eisoes. Ond mae dal amser i unrhyw un arall sydd o'r farn y dylai cyflymder ffordd benodol yn eu hardal nhw newid o 20 mya i 30 mya, newid o 30mya i 20mya neu gadw terfyn 20mya.

"Wrth anfon ebost atom, cofiwch fod yn glir ac yn gryno ynghylch pa rannau o'r ffordd sydd gennych mewn golwg, a'r rhesymau am eich sylwadau.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn inni barhau i wrando ar a derbyn sylwadau hyd at ddiwedd mis Awst. Y pryd hynny wedyn, byddwn yn dechrau adolygu'r holl adborth ochr yn ochr â'r canllawiau o ran eithriadau, ac yn ystyried a yw'n briodol newid y terfyn cyflymder. Mae hyn yn debygol o gymryd nifer o fisoedd, a bydd yn dilyn y drefn briodol, a lle bo angen, bydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.

"Os hoffech chi gysylltu ynghylch terfyn cyflymder 20mya yn eich ardal chi, anfonwch ebost at traffic@powys.gov.uk"

Nid yw Cyngor Sir Powys yn gallu gweithredu ar sylwadau cyffredinol ynghylch polisi cenedlaethol 20mya, oherwydd mater ar gyfer Llywodraeth Cymru yw hwn.  Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am gefnffyrdd; os bydd eich adborth yn ymwneud â chefnffordd, dylech anfon ebost at TrunkRoads20mph@gov.wales. I weld pa ffyrdd ym Mhowys sydd yn gefnffyrdd, ewch i: Datamap Wales.

Bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn sylwadau trwy ebost hyd at 31 Awst 2024.

Ceir hyd i wybodaeth bellach ynghylch terfyn cyflymder 20mya ar wefan Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu