Gweithgareddau Gwyliau'r Haf
29 Gorffennaf 2024
Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gael am ddim i blant chwarae a chael hwyl diolch i arian Llywodraeth Cymru. Caiff y cynllun ei gefnogi gan Gyngor Sir Powys a'i gyflenwi gan grwpiau a sefydliadau amrywiol mewn cymunedau ledled y sir.
Ymwelodd Gweinidog ar Gyfer Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy â sesiwn Gwaith Chwarae yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos ddiwethaf. Dywedodd y Gweinidog: "Rydym yn ymroddedig i gefnogi cynllun prosiect gwyliau Gwaith Chwarae ac rydym wedi buddsoddi £1m eleni i sicrhau fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn gallu darparu chwarae o ansawdd uchel i blant yn ystod gwyliau'r haf. Mae wedi bod yn wych i mi gael gweld drosof fi fy hun gymaint o hwyl ydy'r sesiynau yma sy'n ennyn diddordeb ac yn cyffroi."
Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Sandra Davies: "Rydym wrth ein boddau fod plant a phobl ifanc ledled Powys yn cael y cyfle i elwa o sesiynau gweithgareddau'r haf eto eleni. Maen nhw'n galluogi plant i gymdeithasu, bod yn actif bwyta byrbryd iach a dysgu rhywbeth newydd, mae'n rhan bwysig o brosiect gwyliau Gwaith Chwarae ac gall roi gwir gymorth i deuluoedd dros yr haf.
"Rwy'n annog rhieni i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eu hardal leol, achos gallai plant a phobl ifanc elwa o weithgareddau llawn hwyl fel yr ysgol fforest, chwarae celf blêr, yoga plant, gym arddegau, sesiynau aml-chwaraeon a llawer mwy."
I ganfod rhagor am sesiynau sy'n cael eu hariannu gan Gwaith Chwarae a gweithgareddau eraill sydd am ddim neu ddim yn ddrud yn eich ardal ewch i - https://cy.powys.gov.uk/article/16674/Gweithgareddau-gwyliaur-haf