Toglo gwelededd dewislen symudol

Diweddaru Polisi Cludiant Powys Rhwng yr Ysgol a'r Cartref

Image of school children on a bus

9 Awst 2024

Image of school children on a bus
Mae Polisi Cludiant Rhwng yr Ysgol a'r Cartref Cyngor Sir Powys wedi cael ei ddiweddaru ac rydym ni am gael adborth oddi wrth rieni a gofalwyr am y newidiadau mewn ymgynghoriad byr ar-lein.

Cafodd y polisi drafft a ddiweddarwyd ei gymeradwyo dros dro gan Gabinet y Cyngor ddiwedd Gorffennaf a bellach, mae ymgynghoriad byr ar-lein am ddigwydd i sicrhau fod pawb yn hapus gyda'r diweddariadau a'u bod wedi gwneud y polisi'n gliriach i rieni a gofalwyr ei ddeall. Yn dilyn yr ymgynghoriad, caiff polisi terfynol diwygiedig y Polisi Cludiant Terfynol Rhwng yr Ysgol a'r Cartref ei weithredu o fis Medi 2025 ac ar gyfer derbyniadau 2025-26.

Cyd-ddywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu a'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Nod y diweddariadau i'r polisi yw darparu mwy o eglurhad i'r rheini sydd am ddefnyddio Cludiant Rhwng yr Ysgol a'r Cartref.

"Mae diweddariadau'r polisi wedi cael eu cynllunio i alinio â pholisi derbyniadau ysgolion a mapiau dalgylchoedd newydd ysgolion sydd ar gael i'w gweld ar-lein [Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol], nid yw'n newid cymhwysiad o'r polisi ond yn hytrach y nod yw lleihau amwysedd y geiriad.

"Rydym ni wedi cynnwys cwestiwn atodol sy'n berthnasol i addasiadau i'r ddarpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion sy'n pontio i flwyddyn 7.  Hoffem gasglu eich safbwyntiau cyn unrhyw ymgynghoriadau pellach i sicrhau bod unrhyw addasiadau gofynnol i'r polisi ar gyfer 2026 yn cael eu hystyried nawr.

"Mae eich mewnbwn yn hanfodol i sicrhau ein bod ni'n darparu cludiant diogel a dibynadwy i'n myfyrwyr, rydym ni'n gwerthfawrogi eich amser ac edrychwn ymlaen at eich adborth gwerthfawr. Diolch."

Mae'r ymgynghoriad byr ar-lein hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau sydd wedi cael eu cynllunio i gasglu eich adborth am y diweddariadau. Bydd eich ymatebion yn ein helpu ni i ddynodi'r meysydd ar gyfer gwelliant a datblygu polisi sy'n fwy eglur.

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein a bydd yn cau ar 12 Medi 2024: www.dweudeichdweudpowys.cymru/cludiant-rhwng-y-cartref-a-ysgol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu