Cyn gwesty ar werth
12 Awst 2024
Lleolir yr adeilad ger canol y dref, ac fe'i ddefnyddir ar hyn o bryd fel llyfrgell, swyddfa'r gwasanaethau cofrestru a darpariaeth gofal cymdeithasol, a bydd y gwasanaethau hyn yn aros yn yr adeilad nes bod trefniadau parhaol eraill ar waith.
Mae'r gwerthiant yn rhan o adolygiad y cyngor ledled y sir o'i asedau i sicrhau bod adeiladau'n addas i'w diben ar gyfer swyddogaethau cyhoeddus ac fel swyddfeydd a'u bod yn cefnogi uchelgais y cyngor i drawsnewid y ffordd y cyflenwir gwasanaethau.
Mae arferion cyflenwi newydd o ran gwasanaethau eisoes wedi arwain at newidiadau i adeiladau yn y Trallwng, y Drenewydd a Llandrindod, sydd wedi golygu fod y cyngor a Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r un adeiladau swyddfa.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys, y Cynghorydd Jake Berriman: "Mae'r Gwalia yn adeilad rhestredig nodedig a leolir yng nghanol Llandrindod, tref Sba bensaernïol drawiadol yn y Canolbarth. Ar nodyn personol, bues i'n gweithio yn yr adeilad yn y 90au cynnar, pan symudais i'r ardal i weithio yn yr adran gynllunio, ac o'r herwydd mae ganddo lawer o atgofion arbennig i mi. Mae'r adeilad mewn cyflwr dda, ond bellach mae angen ceidwad newydd i roi bywyd newydd iddo a sicrhau ei fod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r dref am 125 mlynedd arall."
Lansiwyd cynlluniau gan y cyngor i ddenu partner sydd â diddordeb mewn rhoi ffocws newydd a dyfodol hirdymor i'r adeilad Gradd II ym mis Chwefror y llynedd ond bu'n aflwyddiannus ac fe'i rhoddwyd ar y farchnad bellach gydag asiantau tai James Dean.
Mae'r adolygiad o eiddo yn rhan o fenter Powys Gynaliadwy y cyngor, dull radical y mae'r cyngor yn ei gymryd i ail-feddwl sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu i fodloni pwysau cyllidebol yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn rhagweld diffyg cyllid, yn seiliedig ar ddadansoddiad cyllidol cenedlaethol, o fwy na £9.6miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gyda'r ffigur hwnnw'n codi i£50.9 miliwn neu fwy dros y pedair blynedd nesaf.