Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol (CDL) Newydd
Cynhaliodd Awdurdod Cynllunio Lleol Powys ymgynghoriad saith wythnos ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd rhwng dydd Llun 19 Awst a dydd Llun 7 Hydref 2024. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben.
Beth yw'r Strategaeth a Ffefrir?
Diben Strategaeth a Ffefrir CDL Newydd Powys yw mynd i'r afael ag anghenion Cynllun Ardal Powys drwy gynnig lefelau ar gyfer twf tai a chyflogaeth, ac adnabod yn fras lle y dylid dosbarthu'r rhain. Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys Hierarchaeth Aneddiadau Cynaliadwy arfaethedig ynghyd â chyfres o bolisïau cynllunio lefel strategol fydd yn cael eu hehangu drwy bolisïau manwl a dyraniadau tir arfaethedig (ar gyfer datblygiadau newydd) yn ystod camau dilynol proses y CDL Newydd.
Mae Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig Cychwynnol ac Adroddiad Gwybodaeth Asesu Rheoliadau Cynefinoedd wedi'u cyhoeddi gyda'r Strategaeth a Ffefrir.
Mae'r holl ddogfennau ymgynghori a dogfennau ategol, gan gynnwys y Gofrestr Safle Ymgeisiol a dogfennau tystiolaeth gefndirol yn dal i fod ar gael i'w gweld a gellir eu gweld ar adran Dogfennau Hanesyddol porth ymgynghori'r CDLl.
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad bellach yn cael eu dadansoddi a'u hystyried a byddant yn cael eu defnyddio i lywio cam ffurfiol nesaf y CDLl Newydd (2022-2037), y Cynllun wedi'i Adneuo. Bydd Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn manylu ar y prif faterion a'r pwyntiau a wneir ac ystyriaeth y Cyngor ohonynt ar gael maes o law.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae manylion yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir (sydd bellach wedi cau) wedi'u nodi yn yr Hysbysiad ffurfiol a'r Datganiad o Faterion Cyn-adneuo (PDF, 168 KB)
Hefyd, gallwch weld Adroddiad Adolygu'r CDL a Fabwysiadwyd (2011-2026) a ysgogodd proses y cynllun newydd ynghyd â Chytundeb Cyflawni'r CDL Newydd (2022-2037) yma: Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Cynllun Adolygu a Chytundeb Cyflawni - Cyngor Sir Powys
Gallai dogfennau canllaw cymunedol Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru fod o ddiddordeb hefyd: