Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgwyr yn dathlu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 2

Image of two people celebrating their exam results

22 Awst 2024

Image of two people celebrating their exam results
Mae'r cyngor sir wedi llongyfarch dysgwyr o Bowys sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU a Lefel 2 heddiw (dydd Iau, 22 Awst) ar eu cyflawniadau. 

Roedd Cyngor Sir Powys yn falch iawn o glywed am y nifer fawr o ddysgwyr sydd wedi derbyn y canlyniadau yr oedd eu hangen arnynt i gymryd y cam nesaf ar eu llwybr gyrfa, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn anfon fy llongyfarchiadau mwyaf gwresog i'n disgyblion sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU a chymhwysterau Lefel 2 heddiw.  

"Rwy'n hynod o falch o lwyddiannau ein holl ddysgwyr ac ro'n i'n falch iawn o glywed  hanes eu llwyddiannau. 

"Hoffwn ddiolch i bawb yn ein hysgolion sydd wedi cefnogi eu dysgwyr drwy eu harholiadau a hefyd diolch i'r teuluoedd sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ac yn annog eu plant drwy gydol eu haddysg.

"Wrth edrych ymlaen, byddwn yn annog pob dysgwr i ofyn am gyngor ac arweiniad ar yr ystod eang o gyfleoedd dysgu ôl-16 sydd ar gael iddynt, gan gynnwys opsiynau Chweched Dosbarth Powys.  

"Rwy'n dymuno'r gorau i'n holl ddysgwyr yn y camau nesaf y maen nhw wedi'u dewis." 

I gael gwybod am opsiynau Chweched Powys, ewch i www.powys6.cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu