Cwblhau prosiect £53k i wneud Cwm Elan yn fwy hygyrch
2 Medi 2024
Roedd y gwaith yn cynnwys creu llwybrau hygyrch, ag arwyneb gwell, gatiau hygyrch a grisiau i ben Argae Pen y Garreg, yng Nghoed Penbont, ynghyd â llwyfan gwylio a bwrdd picnic hygyrch.
Mae dwy loches, sy'n darparu mwy o wybodaeth am y goedwig law Geltaidd yng Nghwm Elan a Cheunant y Diafol a ailagorwyd yn ddiweddar, wedi cael eu hadeiladu hefyd.
Gwnaed y gwaith yn bosibl diolch i'r cyllid grant o 80% a sicrhawyd gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor sir gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i gynllun Y Pethau Pwysig.
"Mae twristiaeth yn bwysig iawn i economi Powys. Rydym ni, felly, eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r asedau sydd gennym a gwneud ein sir hardd yn lle mwy deniadol i ymweld â hi," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus. "Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl nawr yn cael eu hannog i fforio o gwmpas Cwm Elan."
Cafodd y gwelliannau eu rheoli gan Ddŵr Cymru Welsh Water, a wnaeth hefyd ddarparu gweddill y cyllid.
"Rydym yn ddiolchgar iawn bod cyllid Y Pethau Pwysig, drwy Gyngor Sir Powys, wedi ein cefnogi eto eleni i wella mynediad i ymwelwyr â Chwm Elan, meddai Mike Booth, Rheolwr Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru Welsh Water ar gyfer Cwm Elan.
"Rydym yn cynnal teithiau ac ymweliadau addysgol drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnal diwrnodau agored rheolaidd drwy gydol yr haf i roi cyfle i ymwelwyr weld y tu mewn i un o'n hargaeau ysblennydd, gan roi profiad unigryw.
"Mae ychwanegu'r llochesi gwybodaeth yn rhoi cipolwg i ymwelwyr o ansawdd arbennig a phwysigrwydd Cwm Elan y daw pobl yma i'w fwynhau"
Mae cynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi arwain at £5 miliwn yn cael ei ddyrannu i welliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru ar gyfer 2023-25.
Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru: "Drwy ein cynllun, Y Pethau Pwysig, rydym am sicrhau bod harddwch syfrdanol Cymru yn agored ac yn hygyrch i bawb. Mae'r buddsoddiad yng Nghwm Elan wedi arwain at lu o welliannau ac ychwanegiadau a fydd yn helpu i wneud yr amser mae pobl leol ac ymwelwyr yn ei dreulio yn un o fannau mwyaf trawiadol Cymru, hyd yn oed yn fwy arbennig.
"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sefydliadau'n cydweithio, a hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Powys a Dŵr Cymru Welsh Water am oruchwylio'r gwaith hwn."
Llwyddodd Cyngor Sir Powys i sicrhau £300,000 o hyn, sy'n cael ei wario ar 10 prosiect sy'n cynnwys gwell mynediad, meysydd parcio, llwybrau, mannau gwefru cerbydau trydan, arwyddion a byrddau dehongli, ac uwchraddio toiledau mewn lleoliadau amrywiol.
Ar un adeg roedd y fforest law Geltaidd - coedwig law dymherus - yn gorchuddio llawer o Iwerddon a gorllewin Prydain, ond mae'n dal i fodoli mewn darnau bach, mewn mannau fel Cwm Elan.
Mae Ceunant y Diafol yn llwybr cerdded poblogaidd yng Nghwm Elan a ailagorwyd i'r cyhoedd ddechrau'r flwyddyn llynedd, ar ôl i waith atgyweirio gael ei gwblhau i'w wneud yn ddiogel.
Antur Cwm Elan: https://www.croeso.cymru/cy/cyrchfannau/canolbarth-cymru/powys/atyniadau-cwm-elan
Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan: https://elanvalley.org.uk/cy/visit-cymraeg/canolfan-ymwelwyr/
LLUN: Lloches wybodaeth wrth y fynedfa i Geunant y Diafol yng Nghwm Elan. Llun: Dŵr Cymru Welsh Water