Gweddnewid canol tref Llanfair-ym-Muallt
4 Medi 2024
Bydd Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt yn derbyn hyd at £69,472.08 tuag at y gost o adnewyddu naw ffrynt busnes ar y Stryd Fawr, Stryd Lydan, Heol Groe a Ffordd y Garth.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu ar ffurf Grant Creu Lleoedd Gan Lywodraeth Cymru, drwy ei raglen Trawsnewid Trefi, yn yr achos hwn, am hyd at 70% o gyfanswm y gost.
Mae'r cyngor tref yn gweithio fel hwylusydd i'r cynllun, mewn partneriaeth â'r cyngor sir.
"Rydym ni i gyd eisiau i ganol trefi Powys ffynnu a chael digon o ymwelwyr," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Llewyrchus. "Bydd y gwelliannau hyn yn gwella ymddangosiad Stryd Fawr Llanfair-ym-Muallt, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o fasnach ac ymdeimlad ychwanegol o falchder.
"Mae'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl diolch i'n pum swyddog cyswllt canol tref sy'n cefnogi datblygiad economaidd ledled y sir mewn 18 o drefi."
Ychwanegodd Cynghorydd Tref Llanfair-ym-Muallt, Mark Hammond: "Mae'r cais llwyddiannus o bron i £70,000 o gyllid yn hwb aruthrol i'r dref a gobeithio ei fod yn ddechrau ar broses o wneud Llanfair-ym-Muallt yn fwy deniadol fyth i breswylwyr ac ymwelwyr.
"Mae Llanfair-ym-Muallt yn dref farchnad unigryw a bywiog, ond mae angen i ni ei diogelu rhag y dyfodol, er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael mwynhau'r cyfan sydd ganddi i'w gynnig. Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn allweddol i wireddu'r dyhead hwn."
Gwnaeth Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt gais am y Grant Creu Lleoedd ar ran y naw busnes. Ni fydd yn cadw dim o'r arian, dim ond ei gadw nes bod anfonebau wedi'u derbyn i dalu am y gwaith.
Cefnogir rhaglen Trawsnewid Trefi yn y Canolbarth gan Dimau Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys a Cheredigion.
Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, datblygu seilwaith gwyrdd, galluogi creu swyddi, a gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau. Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol yn elfen ganolog o'r rhaglen, ac mae'r Canolbarth wedi cael £7m ers 2022 i gyflawni prosiectau Adfywio canol trefi.
Mae'r Grant Creu Lleoedd wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, ac yn cael ei ddarparu drwy'r awdurdod lleol, i gefnogi ymyriadau ar raddfa lai (grant o hyd at £250,000) sy'n helpu i wella canol trefi.