Cabinet i ystyried cynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith
5 Medi 2024
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau Ysgol Bro Cynllaith, sydd â 26 o ddisgyblion ar hyn o bryd.
Ddydd Mawrth, 17 Medi, bydd y Cabinet yn ystyried y cynlluniau a gofynnir iddynt ddechrau'r broses statudol, a allai weld yr ysgol yn cau o 31 Awst 2025.
Dyma gam nesaf gweithredu adolygiad Dalgylch Llanfyllin a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Medi 2023.
Y cynnig fyddai i ddisgyblion drosglwyddo i'w hysgol agosaf ym Mhowys. I'r rhan fwyaf o ddisgyblion, Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant fyddai hon.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i ddechrau'r broses statudol, rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ym mis Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posib i'n dysgwyr a chredwn y bydd ein Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.
"Fel rhan o'r strategaeth, mae angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd y disgyblion sy'n gostwng a'r nifer uchel o leoedd dros ben.
"Mae niferoedd y disgyblion sydd wedi bod yn yr ysgol yn y gorffennol a'r rhai y rhagwelir sydd i ddod yn Ysgol Bro Cynllaith yn awgrymu na ddisgwylir i'r niferoedd gynyddu'n sylweddol yn y dyfodol. Mae Ysgol Bro Cynllaith wedi'i gosod yn drydydd ym Mhowys yn ôl cyfran o'r gyllideb fesul disgybl - £8,311 fesul disgybl o'i gymharu â chyfartaledd Powys o £4,729.
"Mae'r nifer bach o ddisgyblion yn yr ysgol yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan gyda disgyblion y cyfnod sylfaen mewn un dosbarth a disgyblion hŷn mewn un arall. Gan fod niferoedd y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn fach, mae'n anoddach sicrhau bod pob disgybl yn cael ei herio'n briodol.
"Nid ar chwarae bach y lluniwyd y cynnig gerbron y Cabinet ar gyfer Ysgol Bro Cynllaith ond credwn fod angen mynd i'r afael â'r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd.
"Bydd hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau gyda chyfoedion o oedrannau tebyg ac yn mynychu ysgol fwy a allai ddarparu ystod ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol."
Bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau y cyngor, ddydd Mercher 11 Medi.
I ddarllen Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 y cyngor a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg