Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau ac atebion am Reolaeth Adeiladu

FAQ's

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a Rheoliadau Adeiladu?

Mae Rheoliadau Adeiladu yn ymwneud â'r gwaith adeiladu ei hun. Maen nhw'n gwenud yn siwr, drwy archwilio a chymeradwyo, bod y gwaith yn ddiogel, yn iach, yn lleihau colledi gwres ac yn ystyried mynediad i'r anabl.

Mae caniatâd cynllunio yn ymwneud ag effaith datblygiad ar eiddo cyfagos a'r ardal gyfagos. Bydd lleoliad, dyluniad, maint, uchder a rhan fwyaf o ddatblygiad yn cael eu hystyried i gyd.

Caiff ceisiadau am ganiatâd cynllunio eu hasesu yn erbyn polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol.

I gysylltu ag adran gynllunio Powys gweler Cynllunio.

Pa fathau o brosiectau sydd angen cais Rheoliadau Adeiladu?

Mae Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol i'r rhan fwyaf o adeiladau newydd a rhai addasiadau adeiladu. Gallant hefyd fod yn berthnasol pan fydd y defnydd o adeilad yn cael ei newid h.y. o dŷ i fflatiau.  Yn gyffredinol, mae angen cymeradwyo'r rhan fwyaf o waith adeiladu gyda Rheoliadau Adeiladu.

Isod ceir rhestr o'r prosiectau mwyaf cyffredin sydd angen gwneud cais i reolaeth adeiladu cyn i'r gwaith ddechrau:

  • Estyniadau ac addasiadau i'r cartref
  • Addasiadau strwythurol mewnol h.y. tynnu wal sy'n cario llwyth neu simnai, newid neu wneud agoriadau ffenestri/drysau newydd
  • Atgyweirio neu amnewid 25% neu fwy o'ch to
  • Gosod simneiau/ffliwiau/boeleri/draenio newydd neu blymio gwastraff
  • Gosod ffenestri/drysau newydd, to ar heulfan
  • Gwneud gwaith trydanol h.y. unedau cawod/unedau defnyddwyr
  • Codi adeilad gardd

Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi wneud cais, gallwch ymweld âr tŷ rhyngweithiol yn y Porth Cynllunio neu gysylltu â ni a byddwn yn hapus i helpu.

Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch hefyd felly sicrhewch eich bod yn gwirio gydag Adran Gynllunio - Bannau Brycheiniog  neu Adran Gynllunio Cyngor Sir Powys

Pa fath o waith adeiladu sy'n cael ei eithrio?

Mae rhai adeiladau ac estyniadau wedi'u heithrio o'r Rheoliadau Adeiladu ac ni fydd angen i chi wneud cais i reolaeth adeiladu. Fodd bynnag, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch o hyd, felly sicrhewch eich bod yn gwirio'n gyntaf gyda'r adrannau cynllunio perthnasol: Adran Gynllunio - Bannau Brycheiniog  neu Adran Gynllunio Cyngor Sir Powys

Rhestrir y prosiectau mwyaf cyffredin sydd wedi'u heithrio isod.

Heulfan

Fel arfer, caiff heulfan ei eithrio os yw'n:

  • wedi ei adeiladu ar lefel y ddaear
  • llai na 30m2  arwynebedd llawr mewnol
  • ar wahân oddi wrth weddill y tŷ gan ffenestri a drysau allanol
  • mae o leiaf 50% o'r waliau newydd a 75% o'r to o wydr neu ddeunydd tryloyw
  • mae'r gosodiadau trydanol/gwresogi sefydlog yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu.

Fodd bynnag, os oes angen i chi greu agoriad strwythurol newydd rhwng eich heulfan eithriedig newydd a'ch cartref presennol, bydd angen i chi wneud cais Rheoliadau Adeiladu ar gyfer y gwaith sydd ei angen i greu'r agoriad newydd.

Garej a 'charport'

Fel arfer, nid oes angen Rheoliadau Adeiladu os:

  • yw'n 'garport' amgaeedig newydd, ar agor ar o leiaf ddwy ochr ac bod arwynebedd y llawr mewnol yn llai na 30m2
  • mae'n garej ar wahân nad yw'n hylosg, llai na 30m2 ac nid yw'n cynnwys llety cysgu. (Os yw wedi'i adeiladu o ddeunyddiau hylosg, rhaid i'r garej fod o leiaf 1m o ffin yr eiddo.)

Cyntedd

Fel arfer, caiff ei eithrio os yw wedi cael:

  • ei adeiladu ar lefel y ddaear a llai na 30m2 o arwynebedd llawr mewnol
  • ei wahanu oddi wrth weddill y tŷ gan ffenestri a drysau allanol
  • mae'r gosodiadau trydanol/gwresogi sefydlog yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu.

Siediau

Fel arfer, nid oes angen cais Rheoliadau Adeiladu ar adeiladau bach ar wahân fel siediau gardd neu dai haf os yw arwynebedd llawr yr adeilad yn llai na 15m2.

Os yw arwynebedd y llawr rhwng 15 a 30m2, ni fydd angen Rheoliadau Adeiladu arnoch fel arfer ar yr amod bod yr adeilad naill ai'n 1m o'r ffin o leiaf neu'n cael ei adeiladu o ddeunyddiau nad ydynt yn hylosg i raddau helaeth.

Dod o hyd i restr lawn o brosiectau sydd wedi'u heithrio

Gellir dod o hyd i fanylion llawn yr holl eithriadau yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Adeiladu. Fel arall, os ydych yn dal i fod yn ansicr a yw eich prosiect wedi'i eithrio, cysylltwch â ni Gwybodaeth am gysylltiadau rheoli adeiladu

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais a'r ffi ymgeisio gywir, bydd Rheoliadau Adeiladu yn gwirio eich cynlluniau (os yw'n berthnasol) ac yna bydd angen i chi roi gwybod i ni pan fydd y gwaith yn dechrau, ac wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen. Mae hyn er mwyn i ni allu archwilio'r gwaith yn rheolaidd a sicrhau bod y Rheoliadau Adeiladu'n cael eu bodloni.  Ar ddiwedd y prosiect, ar ôl cwblhau archwiliad terfynol boddhaol, a derbyn unrhyw dystysgrifau perthnasol eraill (megis ar gyfer gwaith trydanol Rhan P), byddwn yn cyhoeddi tystysgrif gwblhau. Dylech gadw'r ddogfen hon mewn lle diogel gan ei bod yn ddogfen bwysig y bydd ei hangen arnoch os byddwch yn gwerthu neu'n ailforgeisio eich eiddo yn y dyfodol.

Am ba mor hir fydd cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu yn para?

Bydd eich cymeradwyaeth yn dod i ben os na fydd y gwaith yn dechrau o fewn tair blynedd i 'ddyddiad cyflwyno' eich cais.  Mae hyn yn golygu'r dyddiad y cafodd eich cais a'r ffi ymgeisio gywir eu derbyn gennym ni. (Byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth hon ar y ddogfen gymeradwyo neu gydnabod a dderbyniwch gennym ni.) Os oedd angen cymeradwyaeth gynllunio arnoch ar gyfer eich prosiect, bydd gan hyn derfyn amser ar wahân.

Rwyf wedi gwneud gwaith adeiladu ond ni ddywedais wrth Reolaeth Adeiladu. Beth alla i'i wneud?

Mae gan gynghorau bwerau o dan Ddeddf Adeiladu 1984 i orfodi'r Rheoliadau Adeiladu a gallant ofyn bod unrhyw waith nad yw'n cydymffurfio yn cael ei newid neu ei ddymchwel. Gallwch chi neu'r adeiladwr gael eich erlyn neu gellir gofyn i chi dalu am gywiro'r gwaith.

Weithiau gellir cyflwyno cais rheoleiddio i ni, ond nid yw hyn yn gwarantu y bydd y gwaith yn cael ei gymeradwyo, a gall fod yn ddrud a chymryd llawer o amser.  Os daw gwaith heb ei gymeradwyo i'r amlwg wrth werthu eiddo, gall ddal y gwerthiant yn ôl.

Nid ydym am i hyn ddigwydd i chi felly gwiriwch a oes angen i'r gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud gael ei gymeradwyo cyn i chi ddechrau. Os ydych chi'n meddwl bod angen i chi wneud cais rheoleiddio gweler rhagor o wybodaeth yma Gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu neu cysylltwch â ni Gwybodaeth am gysylltiadau rheoli adeiladu

Sut gallaf gael copi o'm tystysgrif gwblhau?

Tystysgrif gwblhau yw'r ddogfen a dderbyniwch gennym ni yn rheolaeth adeiladu ar ôl cwblhau archwiliad terfynol o'ch gwaith adeiladu yn foddhaol (a derbyn unrhyw waith papur perthnasol fel  tystysgrifau personau cymwys).  Rydym yn anfon y ddogfen hon drwy e-bost.

Os ydych wedi camosod y ddogfen a bod eich prosiect wedi'i gwblhau o fewn 15 mlynedd, gallwch gysylltu â ni i ofyn am gopi: Gwybodaeth am gysylltiadau rheoli adeiladu. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Os na wnaethoch ofyn i ni gynnal archwiliad terfynol o'ch gwaith adeiladu a'i fod wedi ei gwblhau o fewn 5 mlynedd gallwch ofyn i ni wneud hyn nawr i chi.  Codir tâl am y gwasanaeth hwn oherwydd bydd angen i ni ailedrych ar y ffeil gais a chadarnhau a ellir cynnal archwiliad.  Cysylltwch â ni am ragoro wybodaeth yn gwybodaeth am gysylltiadau rheoli adeiladu.

Beth yw Deddf Waliau Cydrannol?

Mae Deddf Waliau Cydrannol yn bwysig os ydych yn cynllunio gwaith adeiladu a fydd yn effeithio ar wal gyffredin rhyngoch chi a'ch cymydog. Os ydych yn byw mewn eiddo pâr, fflat neu deras rydych yn debygol o rannu wal gydrannol gydag adeilad cyfagos a bydd angen cytundeb ynghylch y wal gydrannol cyn i chi ddechrau ar unrhyw waith adeiladu.

Nid yw ein tîm rheolaeth adeiladu yn ymwneud â Deddf Waliau Cydrannol. Mae'r Ddeddf Waliau Cydrannol yn wahanol i ganiatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.  Gallwch ddarllen mwy am y Ddeddf ar wefan y Llywodraeth neu gallwch gysylltu â Syrfëwr Waliau Cydrannol drwy ymweld â Syrfewyr Waliau Cydrannol.

Os ydych yn bwriadu dechrau ar y gwaith a gwmpesir o dan y Ddeddf Waliau Cydrannol, fel perchennog yr eiddo, rhaid i chi roi hysbysiad o'ch cynlluniau i berchenogion cyfagos.  Yna gallant gytuno neu anghytuno â'ch cynnig ac os ydynt yn anghytuno, mae'r Ddeddf yn darparu ffordd o ddatrys anghydfod.

Beth yw Cynllun Personau Cymwys?

Cyflwynwyd Cynlluniau Personau Cymwys (CPS) gan y Llywodraeth i ganiatáu i unigolion a chwmnïau hunanardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu heb orfod cyflwyno cais ar wahân i reoli adeiladu a thalu ffi ymgeisio.

Mae amrywiaeth o Gynlluniau Personau Cymwys sy'n cwmpasu pob agwedd ar y Rheoliadau Adeiladu, o osod ffenestri newydd mewn eiddo domestig a gosod boeleri newydd i waith trydanol arbenigol a phrofion pwysedd aer. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o gynlluniau ar wefan y Llywodraeth.

O fewn 30 diwrnod i gwblhau'r gwaith, mae gosodwr sydd wedi'i gofrestru gyda CPS yn darparu tystiolaeth o'r gwaith i'r perchennog a thîm rheolaeth adeiladu'r awdurdod lleol drwy eu darparwr cynllun. Yna caiff hwn ei gofnodi ar gronfa ddata'r awdurdod lleol er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.

Pam fod angen trydanwr Rhan P arnaf?

Cyflwynodd y Llywodraeth reolau diogelwch trydanol (rheolau Rhan P) yn Rheoliadau Adeiladu Cymru a Lloegr yn 2005. Dywed Rhan P fod yn rhaid i unrhyw un sy'n gwneud gwaith trydanol mewn cartref sicrhau bod ei waith yn cael ei gynllunio a'i osod i ddiogelu pobl rhag tân a sioc drydanol. Gall trydanwyr cymwys Rhan P wneud a hunanardystio'r math hwn o waith fel nad oes rhaid gwneud cais Rheoliadau Adeiladu ar wahân i reolaeth adeiladu.

Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu estyniad i'ch eiddo neu ystafell ymolchi newydd, bydd angen i'r gwaith trydanol ynddynt, fel cylched drydanol neu uned gawod newydd, gael ei wneud gan drydanwr ardystiedig Rhan P.

Pa fath o waith ydy Rhan P yn berthnasol iddo?

  • ychwanegiadau neu addasiadau i gylchedau sy'n bodoli eisoes mewn lleoliadau arbennig
  • amnewid uned defnyddwyr
  • gosod cylched newydd
  • ail-wefru

Dysgwch fwy am ble mae Rhan P yn berthnasol ar wefan Trydanol Personau Cymwys Cofrestredig 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu