Banciau ailgylchu cardiau i'w tynnu ymaith fis nesaf
13 Medi 2024
Pan gafodd safleoedd ailgylchu cymunedol eu cyflwyno yn gyntaf, doedd dim casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd. Unig ddiben y safleoedd hyn oedd galluogi preswylwyr i ailgylchu eitemau'r cartref yn agos at eu cartrefi. Fodd bynnag, gyda bod y gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol wedi ei hen sefydlu bellach, mae'n hawdd ailgylchu cardfwrdd, ynghyd ag eitemau eraill o'r cartref.
"Cytunodd y cabinet yn gynharach eleni ar y penderfyniad i symud y banciau ailgylchu cardfwrdd." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys wyrddach. "Er fod hyn yn cael ei ddynodi fel arbediad cyllidebol i ddechrau, y mae hefyd yn ddyblygiad o'r gwasanaeth, felly mae cael gwared ohono yn ein galluogi ni i ganolbwyntio'n hadnoddau prin ar gyflawni casgliadau wythnosol ymyl y ffordd.
"Rydym ni'n gwerthfawrogi fod yna rai'n defnyddio'r banciau ailgylchu cardfwrdd yn rheolaidd, ond wrth eu torri'n ddarnau a'u hychwanegu at eich blwch ailgylchu glas, mae'n hawdd ailgylchu cardfwrdd o'ch cartref bob wythnos. Os oes unrhyw un yn cael trafferth ffitio'r holl ailgylchu yn eu cynwysyddion ymyl y ffordd, mae'n bosibl gwneud cais am ragor o flychau ar-lein. Gellir parhau i gymryd pentwr mwy o faint o gardfwrdd i'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ledled Powys."
Hefyd, wrth gael gwared ar y banciau hyn, gallwn sicrhau nad ydynt yn cael eu cam-ddefnyddio i dipio'n anghyfreithiol gan lygru'r deunydd gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu, neu eu defnyddio'n anghyfreithlon gan fusnesau. Gall busnesau sydd am gael gwasanaeth casglu ailgylchu gysylltu â thîm Ailgylchu Masnachol Powys am ddyfynbris am ddim: commercial.recycling@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 810829
Dosbarthwyd manylion am gael gwared ar y banciau ailgylchu ym mis Gorffennaf a chafodd posteri sy'n hysbysu defnyddwyr am hyn eu harddangos ym mhob safle dros yr haf.