Ysgol Bro Cynllaith
Mae Cyngor Sir Powys wedi cynnal y broses statudol ar gynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol mewn perthynas â'r cynnig hwn ar 12 Mawrth 2025, a daeth y Cyfnod Gwrthwynebu i ben ar 9 Ebrill 2025.
Mae'r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Gwrthwynebiadau sy'n amlinellu'r Gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y Cyfnod Gwrthwynebiadau. Mae'r Adroddiad Gwrthwynebiadau ar gael isod:
Ar 10 Mehefin 2025, ystyriodd Cabinet y Cyngor yr Adroddiad Gwrthwynebiadau a chytunodd i fwrw ymlaen â'r cynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith o 31 Awst 2025 ymlaen.
Mae llythyr penderfyniad sy'n amlinellu penderfyniad y Cabinet ar gael isod: