Ysgol Bro Cynllaith
Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghori ar gynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith. Mae'r cyfnod ymgynghori wedi cael ei ymestyn, a bydd bellach yn gorffen ar 19 Tachwedd 2024.
Mae'r cynnig fel a ganlyn:
I gau Ysgol Bro Cynllaith o 31 Awst 2025, bydd disgyblion ym Mhowys yn trosglwyddo i'w hysgol amgen agosaf ym Mhowys.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018) a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 3 Hydref 2024 a bydd yn dod i ben ar 19 Tachwedd 2024.
Ymateb i'r ymgynghoriad
I ymateb i'r ymgynghoriad gallwch:
- Lenwi'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad - mae fersiwn ar-lein ar gael yma www.dweudeichdweudpowys.cymru/ysgol-bro-cynllaith neu fersiwn Word ar gael isod.
- Anfon e-bost at y Tîm Trawsnewid Addysg - school.consultation@powys.gov.uk
- Ysgrifennu at y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.
Dogfennaeth Ymgynghori
Mae copïau o'r ddogfennau ymgynghori ar gael trwy'r dolenni canlynol:
- Dogfen Ymgynghori (PDF) [947KB]
- Dogfen Ymgynghori - Fersiwn i Blant (PDF) [322KB]
- Dogfen Ymgynghori - Pobl Ifanc (PDF) [826KB]
- Asesiadau Effaith Drafft (PDF) [712KB]
- Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad - fersiwn Microsoft Word (Word doc) [35KB]
Mae copïau papur o'r ddogfennaeth ymgynghori ar gael trwy gysylltu â'r Tîm Trawsnewid Addysg gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau