Trosglwyddo safle cartrefi newydd yn Llandrindod

30 Medi 2024

Prynwyd y tir rhwng Stryd y Deml a Phromenâd y Gorllewin, sydd heb ei ddefnyddio ers 20 mlynedd, gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor gyda chyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU.
Cwblhawyd y gwaith o ddiogelu wal talcen y Palas Moduron rhestredig gradd II* cyfagos ac mae tirfesuriadau cychwynnol wedi'u cwblhau ar y safle, a oedd unwaith yn rhan o'r garej (estyniad o'r 1960au).
Mae'r prosiect bellach ar y cam cynllunio ac mae'n debygol y bydd ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y cynlluniau yn gynnar yn 2025.
Ar hyn o bryd mae 457 o ymgeiswyr ar gofrestr Cartrefi ym Mhowys, sy'n aros i eiddo rhent cymdeithasol ddod ar gael yn Llandrindod.
"Mae'r cyngor cyfan yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ar frys â'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach. "Bydd y safle hwn, a gaffaelwyd gyda chymorth Llywodraeth y DU, yn ein galluogi i ddarparu llety rhent cymdeithasol un ystafell wely y mae mawr ei angen yn Llandrindod."
Ychwanegodd y Cyngh David Selby, Aelod Cabinet Powys Fwy Llewyrchus: "Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu hwyluso ailddatblygu'r safle tir llwyd adfeiliedig hwn, sydd heb ei ddefnyddio ers cyhyd. Mae ganddo leoliad amlwg, ochr yn ochr â chefnffordd yr A483, ac ar hyn o bryd nid yw'n gwneud dim i wella ymddangosiad canol y dref."
I wneud cais am dai cymdeithasol ewch i wefan Cartrefi ym Mhowys: https://www.homesinpowys.org.uk/#
Rhagor o wybodaeth am wneud cais am dai cymdeithasol: Gwneud cais am dŷ cymdeithasol
LLUN: Aelodau Cabinet Cyngor Sir Powys, Matthew Dorrance (chwith) a Jake Berriman sy'n nodi trosglwyddo'r safle ar Stryd y Deml i Wasanaethau Tai (o'r Tîm Eiddo Strategol), gyda'r canlynol yn gwylio: Pete Roberts, Cyd-aelod o'r Cabinet; Prif Swyddog - Lle, Matt Perry a Rheolwr Cyflawni'r Rhaglen (Cefnogi Cymunedau), Louise Nicholson.