Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Calon Cymru

Image of Ysgol Calon Cymru

4 Hydref 2024

Image of Ysgol Calon Cymru
Bydd tîm o uwch swyddogion addysg yn gweithio gydag ysgol uwchradd ym Mhowys ar ôl i arolygwyr Estyn deimlo bod dal angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol, meddai'r cyngor sir.

Er gwaethaf y cynnydd a welwyd yn Ysgol Calon Cymru ers ei harolygiad craidd ym mis Hydref 2022, mae Estyn o'r farn bod angen gwella'r ysgol ymhellach o hyd, yn dilyn ymweliad monitro a gynhaliwyd fis diwethaf (Medi).

O ganlyniad, bydd tîm o uwch swyddogion addysg o'r cyngor yn gweithio gyda'r ysgol i sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol.

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, a dderbyniwyd gan yr ysgol a'r cyngor, yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol y mae angen eu gwella. 

Bydd swyddogion y Cyngor, yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn cydweithio i adnabod rhesymau dros ganlyniad yr arolygiad ac i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Bydd staff, disgyblion a rhieni'n cael eu cefnogi'n llawn yn ystod y daith o wella.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn llwyr gydnabod disgrifiad Estyn o gynnydd Ysgol Calon Cymru a'r meysydd i'w gwella yn eu hargymhellion, sy'n rhoi arweiniad clir ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol.

"Byddwn yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr yr ysgol i wneud i hyn ddigwydd wrth i ni ddechrau'r daith hon o wella a mynd i'r afael â'r argymhellion a gyflwynwyd gan Estyn."

Dywedodd Rosie McConnell, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Calon Cymru: "Er ein bod yn naturiol yn siomedig gyda'r canlyniad, rydym yn gweld hyn fel moment bwysig ar gyfer twf a datblygiad.

"Rydym yn cydnabod y meysydd a amlygwyd gan Estyn sydd angen sylw ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn.

"Mae llawer o gryfderau yn Ysgol Calon Cymru ac rydym yn parhau i fod yn falch o'r gwaith caled a'r ymroddiad a ddangoswyd gan staff a dysgwyr, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae Estyn wedi cydnabod y berthynas gadarnhaol sydd gennym gyda'n dysgwyr, ac ymddygiad gwell disgyblion o amgylch yr ysgol a phan fyddant mewn gwersi.

"Ar y cyd â'r cyngor, rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gynllun gwella manwl i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd dros y 12 mis nesaf."

I weld yr adroddiad arolygu ewch i www.estyn.llyw.cymru

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu