Garddwyr twyllodrus yn targedu'r sir, rhybudd i drigolion gan y cyngor
11 Hydref 2024
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi'r rhybudd yn dilyn adroddiadau am arddwyr crwydrol sy'n targedu ardal Aberhonddu.
Mae twyllwyr yn y busnes tirlunio a garddio yn weddol gyffredin. Diwydiant heb ei reoleiddio yw tirlunio, sy'n golygu y gall unrhyw un roi cynnig arni, hyd yn oed y rhai nad oes ganddynt hyfforddiant na phrofiad o gwbl.
Arwyddion cyffredin o dirlunwyr twyllodrus yw prisiau rhad, dyfynbrisiau llafar yn unig, dim geirdaon, cynigion i ddechrau ar unwaith a gofyn am arian parod ymlaen llaw. Hefyd, mae honni bod coed yn anghyfreithlon ac angen eu torri i lawr yn dric masnach arall.
Mae'r cyngor hefyd yn atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus o unrhyw alwadau digymell i'w cartref. Dylai unrhyw un sy'n cael ymwelydd ar stepen eu drws, neu sy'n teimlo dan fygythiad, ffonio'r heddlu ar 101.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Ddiogelach: "Rydym am gadw ein cymunedau'n ddiogel ac mae hyn yn cynnwys diogelu pobl rhag masnachwyr twyllodrus a throseddau ar stepen y drws.
"Mae garddwyr twyllodrus yn aml yn targedu pobl fregus, yn enwedig yr henoed. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn cadw golwg am yr arwyddion, yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn cadw llygad ar ffrindiau oedrannus, perthnasau a chymdogion."
Mae'r gwasanaethau cyffredin a gynigir gan fasnachwyr twyllodrus a galwyr diwahoddiad yn cynnwys gwaith adeiladu cyffredinol, tirlunio a garddio, toeau, atgyweiriadau a chynnal a chadw ac ail-wynebu tramwyfa. Mae'r prisiau a godir fel arfer yn ormodol a bydd unrhyw un sy'n derbyn gwaith yn talu llawer mwy na'r bwriad. Mae gwaith hefyd yn aml o ansawdd gwael iawn, gall fod yn beryglus ac mewn rhai achosion nid yw hyd yn oed yn cael ei wneud.
Os yw darpar gwsmeriaid yn penderfynu cyflogi masnachwr anhysbys, cyngor Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor yw:
- Gwiriwch fanylion adnabod y masnachwyr, yn enwedig unrhyw rif ffôn a roddir
- Gwnewch ymchwil ar y we gan gynnwys gwirio am unrhyw adolygiadau negyddol
- Gofynnwch i ffrindiau neu gymdogion os ydynt wedi clywed am y cwmni, ac os yw'n lleol, gwiriwch i sicrhau bod eu safle(oedd) gwaith yn y lle maen nhw'n honni
- Gofynnwch i'r masnachwr am eirda, ac os oes modd edrychwch ar enghraifft o'u gwaith
- Fe'ch cynghorir i ddefnyddio masnachwr sy'n aelod o gymdeithas fasnach, ond gwiriwch yr hawliad gyda'r corff masnach cyn ei gyflogi
- Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig cyn mynd ymlaen. Sicrhewch fod enw a chyfeiriad y masnachwr arno a bod y pris am y gwaith yn glir
- Cadwch nodyn o unrhyw fanylion cerbyd gan gynnwys y rhif cofrestru
- Peidiwch byth â thalu nes bod y gwaith wedi'i gwblhau i'ch boddhad. Ceisiwch dalu â siec neu gerdyn credyd bob amser - peidiwch byth â chael eich perswadio i fynd i'r banc neu gymdeithas adeiladu i dynnu arian allan.
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i alwyr diwahoddiad roi 'hysbysiad canslo' i gwsmeriaid, gan roi 14 diwrnod iddynt ganslo'r contract a wneir am unrhyw waith dros £42. Mae methu â chyflwyno hysbysiad canslo yn y modd cywir yn drosedd.
Dylai unrhyw un sy'n meddwl eu bod nhw, neu unrhyw un y maent yn eu hadnabod, wedi cael eu twyllo, gysylltu â llinell gymorth am ddim Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu i gysylltu â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg, ffoniwch 0808 223 1144.