Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae hi bellach yn orfodol i gofrestru eich adar

Image of a chicken

14 Hydref 2024

Image of a chicken
Mae angen i bawb sy'n cadw adar ym Mhowys gofrestru gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar ôl iddo ddyfod yn ofyniad cyfreithiol yn gynharach y mis hwn, meddai'r cyngor sir.

Yn flaenorol, dim ond os oeddech chi'n cadw 50 neu fwy o adar oedd gofyniad cyfreithiol i chi gofrestru.

Fodd bynnag, ers 1 Hydref 2024, mae'r gofyniad cyfreithiol newydd yn golygu bod yn rhaid i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gofrestru beth bynnag fo'r nifer sydd ganddynt.

Bellach, mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn annog ceidwaid adar nad ydynt wedi cofrestru eu hunain gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i wneud hynny ar unwaith.

Drwy gofrestru byddwch yn derbyn diweddariadau a chanllawiau os oes achosion o glefydau, fel ffliw adar, yn eich ardal chi.

Byddwch hefyd yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu ac i ddiogelu pob aderyn a gedwir, gan gynnwys heidiau iard gefn.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Bydd y gofynion cofrestru newydd yn helpu ceidwaid adar i ddiogelu eu heidiau o adar. Bydd modd i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gysylltu â cheidwaid adar os oes achosion o glefyd hysbysadwy yn eu hardal, fel ffliw adar, i'w hysbysu am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal y clefyd rhag lledaenu.

"Mae'n bwysig cofio bod sylw manwl at hylendid a bioddiogelwch yn parhau i fod yn hanfodol i ddiogelu heidiau rhag bygythiad o glefyd. 

"Mae ceidwaid adar wedi gweithio'n galed i ddiogelu eu heidiau o adar rhag risgiau ffliw adar dros y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaus."

Bydd gofyn i geidwaid adolygu eu cofnod ar y gofrestr yn flynyddol er mwyn sicrhau bod eu manylion yn gyfredol a bod unrhyw newidiadau'n cael eu cofnodi.

Mae rhai mathau o adar caeth sy'n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes ac sy'n byw dan do yn unig heb fynd allan o gwbl, wedi'u heithrio rhag cofrestru.

I gael gwybod mwy, ewch i www.gov.uk/poultry-registration

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu