Galw am wirfoddolwyr i helpu i bontio'r bwlch sgiliau amgylcheddol
28 Hydref 2024
Mae'r Ganolfan yn un o nifer o brosiectau arddangos, a reolir gan Gyngor Sir Amwythig, a ddatblygwyd i lywio Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (y Cynllun), sy'n ceisio mynd i'r afael â llifogydd, cefnogi cymunedau ffyniannus a chreu amgylcheddau cadarn drwy reoli dŵr yn gynaliadwy a holistaidd.
Caiff y Ganolfan ei harwain gan Brifysgol Caer a'r nod yw creu llif talent drwy gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys Partneriaeth Afon Hafren, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Amwythig, Asiantaeth yr Amgylchedd, ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Bydd y cydweithio hwn yn helpu i adeiladu sgiliau a chreu cyfleoedd i bobl ddysgu am effeithiau newid hinsawdd a sut i addasu iddynt.
Mae'r Ganolfan bellach yn galw ar wirfoddolwyr i ymuno â bwrdd ymchwil gweithredu a fydd yn cynllunio'r ymchwil i greu sgiliau ac arloesi yn Swydd Amwythig a Phowys i sicrhau newid gwirioneddol yn wyneb newid hinsawdd ac i ardal y Gororau gael ei chydnabod am ei harloesedd gwyrdd a'i chyfleoedd economaidd.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Melissa Spiers, o Brifysgol Caer: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl fod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gweithio tuag at gydnerthedd hinsawdd go iawn ar gyfer ardal y Gororau, gan dynnu sylw at ei thirwedd ac adnoddau unigryw.
"Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan unrhyw un 18+ oed a allai fod yn ystyried gyrfa amgylcheddol, colegau AB yn yr ardal leol sy'n darparu cyrsiau rheoli amgylcheddol, fforwm dŵr neu gynrychiolwyr atal llifogydd lleol ac unrhyw un mewn grŵp ymylol sydd â diddordeb mewn rheoli dŵr ac effeithiau llifogydd yn lleol.
"Rydym yn chwilio am unigolion i gyfrannu un i ddwy awr y mis drwy gydol y prosiect ddwy flynedd a hanner hwn, gydag isafswm gofyniad o ymrwymiad blwyddyn. Bydd y rhan fwyaf o drafodaethau bwrdd ar-lein, gyda gwasanaethau cymorth personol a digidol ar gael. Os yw aelod yn ddi-waith gallwn eu had-dalu am eu hymwneud â'r prosiect."
Ychwanegodd Pete Lambert, rheolwr Prosiect Arddangos y Cynllun: "Un o brif nodau'r Ganolfan yw mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau lleol yn y sector rheoli dŵr. Drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu, mae'r ganolfan yn gobeithio atal gweithwyr medrus rhag symud oddi wrth yr ardal a gwella enw da ein rhanbarth fel arloeswr yn yr economi werdd."
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio am swydd ar y bwrdd ymchwil gweithredu lenwi ffurflen gais yma cyn y dyddiad cau sef dydd Gwener 8 Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun ac i gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ewch i'r wefan.
NODIADAU
Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn bartneriaeth a ffurfiwyd o Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Amwythig ac mae wedi ymrwymo i archwilio cyfleoedd i wneud Afon Hafren yn dalgylch afonydd mwy bywiog a chadarn, lle mae economïau lleol yn ffynnu, a chymunedau ac asedau naturiol yn ffynnu.
Mae'n gweithio gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid a sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol sydd â diddordeb i weithredu cymysgedd o ymyriadau a fydd yn:
- Lleihau perygl llifogydd
- Darparu rheoli dŵr hir dymor
- Darparu mantais economaidd
- Cynnig diogelu'r amgylchedd
- Galluogi gwerth cymdeithasol a chreu lle