5 safle ysgol a chanolfan gymunedol wedi helpu i gwtogi £42k ar filiau ynni
4 Tachwedd 2024
Disgwylir i'r gwaith gyflawni arbedion cost blynyddol cyfunol o tua £42,000 ac amcangyfrifir bod 23 tunnell o CO2e yn arbedion carbon.
Y safleoedd sy'n elwa o'r cynlluniau a ddatblygwyd gan Wasanaethau Dylunio Eiddo Cyngor Sir Powys yw:
- Ysgol Gynradd Sirol Aberriw a Chanolfan Gymunedol Aberriw
- Ysgol a Neuadd Gymunedol yr Eglwys yng Nghymru Y Bontnewydd-ar-Wy.
- Ysgol Cwm Banwy a Chanolfan y Banw yn Llangadfan.
- Ysgol Glantwymyn a Chanolfan Gymunedol.
- Ysgol Dolafon a Neuadd Bromsgrove yn Llanwrtyd.
Mae'n dilyn gwelliannau tebyg a wnaed mewn safleoedd ysgolion a canolfannau cymunedol yn Ardd-lin, Tregynon a Llangatwg y llynedd.
Cefnogwyd y gwaith gan gyllid grant Rhaglen Cydweithredu Asedau Cymru gan Lywodraeth Cymru (Ystadau Cymru).
Cwblhawyd y gwaith yn 2024:
- 11 kWp o baneli solar gyda storfa batri 11 kWh, ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yn Ysgol Gynradd Sir Aberriw.
- 11 kWp paneli solar gyda storfa batri 11 kWh, ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yng Nghanolfan Gymunedol Aberriw.
- 11 kWp paneli solar gyda storfa batri 11 kWh, wedi'u gosod yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Bontnewydd-ar-Wy.
- 3.69 kWp paneli solar gyda storfa batri 5.8 kWh, wedi'u gosod yn Neuadd Gymunedol Y Bontnewydd-ar-Wy.
- 11 kWp o baneli solar gyda storfa batri 11 kWh, ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yn Ysgol Cwm Banwy.
- Ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yng Nghanolfan y Banw.
- Paneli solar 11 kWp gyda storfa batri 11 kWh, ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yn Ysgol Glantwymyn.
- Paneli solar 11 kWp gyda storfa batri 11 kWh, ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yng Nghanolfan Gymunedol Glantwymyn.
- Paneli solar 11 kWp gyda storfa batri 11 kWh, ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yn Ysgol Dolafon.
- Ffitiadau goleuadau LED a 200mm o inswleiddio atig wedi'u gosod yn Neuadd Bromsgrove.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys, "Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid grant hwn, a rhagwelwn y bydd hyn yn helpu'r ysgolion a'r canolfannau cymunedol sydd wedi elwa i dorri eu biliau trydan. "Mae hefyd yn eu helpu i dorri eu hôl troed carbon a'n symud tuag at ein targed - a osodwyd gan Lywodraeth Cymru - i fod yn sero net ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2030.
"Fel cyngor, rydym am gefnogi ein cymunedau i fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel rhan o'n dull gweithredu Powys Gynaliadwy."
Ychwanegodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol: "Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi mentrau cynaliadwy ym Mhowys drwy Ystadau Cymru a chynllun grant Rhaglen Cydweithredu Asedau Cymru. Mae'r prosiect hwn yn gam sylweddol tuag at ein nod uchelgeisiol o gyflawni sero net erbyn 2030, gan annog cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd."
Cyflwynwyd y prosiectau i gyd gan Gontractwyr Trydanol Ian Jones o Gaersŵs.
Darparwyd cyllid ar gyfer y gwaith hefyd drwy raglen Gwelliannau Mawr Ysgolion Cyngor Sir Powys.
LLUN: Y paneli solar a osodwyd yn Ysgol Gynradd Sirol Aberriw a'r Ganolfan Gymunedol.