Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Y Cabinet i ystyried cynllun strategol ADY a Chynhwysiant newydd

Image of a group of child with paint on their hands

6 Tachwedd 2024

Image of a group of child with paint on their hands
Bydd y Cabinet y mis hwn yn ystyried cynllun cyffrous gyda'r nod o wella'r system addysg gynhwysol a theg i gefnogi anghenion holl ddysgwyr Powys yn well, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Cyngor Sir Powys wedi cynhyrchu Cynllun Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Chynhwysiant newydd ar gyfer Powys. Mae'r cynllun yn amlinellu dull cynhwysfawr o gefnogi dysgwyr ag ADY, meithrin amgylcheddau cynhwysol a sicrhau mynediad teg at addysg a chyfleoedd i bob dysgwr.

Bydd y cynllun arfaethedig yn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth 26 Tachwedd.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynllun strategol yn helpu'r cyngor i gyflawni'r nodau yn ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn ogystal â helpu i gyflawni amcanion fel rhan o strategaeth Powys Gynaliadwy.

Ymhlith amcanion allweddol y cynllun strategol mae gwella adnabod ac ymyrryd yn gynnar, datblygu amgylchedd addysgol cefnogol, gwella mynediad at wasanaethau arbenigol, a sicrhau llwybrau pontio effeithiol.

Mae'r cynllun strategol hefyd yn pwysleisio gwaith partneriaeth rhwng y cyngor, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Grŵp NPTC i ddarparu cefnogaeth gydlynol i'r holl ddysgwyr a'u teuluoedd.

Cynigir bod y cynllun yn cael ei weithredu drwy dair ffrwd waith. Dyma nhw:

  • Cynhwysiant i Bawb - mae hwn yn canolbwyntio ar wella a datblygu gwasanaethau a'i nod yw cefnogi a mynd i'r afael â'r heriau a godir gan weithwyr proffesiynol a theuluoedd o ran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Chynhwysiant;
  • Addysg Heblaw yn yr Ysgol a'r Uned Cyfeirio Disgyblion - nod yffrwd waith hon yw adolygu arferion a phrosesau cyfredol a gweithredu gwelliannau i gefnogi'r dysgwyr hyn yn well. Y nod yw hwyluso eu hailintegreiddio mewn ysgolion prif ffrwd neu drosglwyddo'n esmwyth i leoliadau addysg bellach, gan hyrwyddo eu lles cyffredinol a'u llwyddiant academaidd;
  • Datblygu Canolfannau Cynhwysiant Newydd a Model Rhwydwaith Cymunedol gan gynnwys Canolfannau Dysgu Arbenigol - mae'r ffrwd waith hon yn archwilio'r posibilrwydd o greu amgylchedd mwy integredig, hygyrch a chefnogol i ddysgwyr, teuluoedd, a'r gymuned ehangach, gan feithrin cymdeithas fwy cynhwysol a chadarn. Bydd y rhaglen yn archwilio addasrwydd sefydlu Canolfannau Cynhwysiant newydd ledled Powys a fydd yn integreiddio cymorth arbenigol, gan sicrhau hygyrchedd a gwasanaethau o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ym Mhowys yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

"Mae'r cynllun strategol hwn yn hanfodol ar gyfer creu system addysg gynhwysfawr, gynhwysol a theg ym Mhowys.

"Drwy gydweithio â'n partneriaid, gallwn sicrhau bod pob dysgwr, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu."

Bydd Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau a Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal y cyngor yn ystyried y cynllun strategol arfaethedig ddydd Mercher, 13 Tachwedd.

I ddarllen y Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu