Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau marchnata digidol am ddim wedi'u trefnu ar gyfer sectorau celfyddydol a diwylliannol

Image of a female performing in a drama, sculpting and painting

11 Tachwedd 2024

Image of a female performing in a drama, sculpting and painting
Mae sesiynau hyfforddi marchnata digidol am ddim wedi cael eu trefnu gan Gyngor Sir Powys i helpu pobl yn y sectorau celfyddydol, diwylliant, dysgu a threftadaeth i hysbysebu eu digwyddiadau.

Mae'r sesiynau rhad ac am ddim, a fydd yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, wedi eu trefnu cyn lansio llwyfan Beth sy' Mlaen newydd ar wefan StoriPowys y cyngor - gwefan wedi'i neilltuo ar gyfer sectorau celfyddydol, diwylliant a chreadigol Powys.

Bydd y gweithdai, sydd wedi'u hanelu at unigolion a sefydliadau creadigol, yn canolbwyntio ar strategaeth ar gyfer cynnwys, ysgrifennu ar gyfer y we, optimeiddio peiriannau chwilio, cyfryngau cymdeithasol a mwy. Bydd hefyd yn gyfle i gael gwybod mwy am y llwyfan Beth sy' Mlaen newydd sy'n cael ei gyflwyno gan Wasanaethau Diwylliannol y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Fwy Diogel: "Mae lansiad y llwyfan digidol a'r rhaglenni hyfforddi newydd hwn gan Gyngor Sir Powys yn gam sylweddol ymlaen i'r celfyddydau, diwylliant, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a threftadaeth ym Mhowys.

"Bydd hyfforddiant marchnata digidol am ddim yn grymuso pawb sy'n gweithio yn y celfyddydau a diwylliant ym Mhowys i hyrwyddo eu digwyddiadau'n effeithiol, a bydd calendr Beth sy' Mlaen yn helpu sefydliadau celfyddydol i hyrwyddo ac arddangos eu digwyddiadau a chysylltu â'r gymuned leol."

Gall mynychwyr ddewis o sesiynau rhithwir neu wyneb yn wyneb, sy'n cynnwys cinio a lluniaeth:

  • Dydd Mercher, 20 Tachwedd, 10am-4:30pm - Celfyddydau'r Canolbarth, Caersws
  • Dydd Mercher, 27 Tachwedd, 10am-12pm - ar-lein
  • Dydd Iau, 28 Tachwedd, 2-4pm - ar-lein
  • Dydd Mercher, 4 Rhagfyr, 10am-4:30pm - The Globe, Y Gelli Gandryll
  • Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2-4pm - ar-lein
  • Dydd Iau, Rhagfyr 12, 2-4pm - ar-lein
  • Dydd Gwener, Rhagfyr 13, 10am-4:30pm - The Lost Ark, Rhaeadr Gwy

Bydd y cofrestru yn cau un diwrnod cyn pob digwyddiad. I gofrestru, ewch i https://forms.office.com/e/5Fia0SH1xm

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch celf@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu