Preswylwyr Powys yn dangos cefnogaeth i Ddiwrnod Rhuban Gwyn
27 Tachwedd 2024
Trefnodd Cyngor Sir Powys y teithiau cerdded fel rhan o'r Diwrnod Rhuban Gwyn, a gynhaliwyd ddydd Llun, 25 Tachwedd. Cynhaliwyd y teithiau cerdded yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd.
Eleni, anogodd elusen y Rhuban Gwyn fwy o ddynion i gymryd rhan mewn newid ymddygiad ac agweddau niweidiol ar sail rhyw drwy ddefnyddio'r thema 'Mae'n Dechrau Gyda Dynion'.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Phrif Lysgennad Rhuban Gwyn: "Gallwn atal trais yn erbyn menywod a merched gyda'n gilydd. Mae'n Dechrau Gyda Dynion.
"Mae trais yn erbyn menywod a merched wedi'i wreiddio mewn nodweddion gwrywaidd niweidiol. Gan ddechrau gyda dynion, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r agweddau ac ymddygiadau sy'n cyfrannu at ofn trais i fenywod yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
"Rwy'n gofyn i ddynion a bechgyn ym Mhowys wneud addewid y Rhuban Gwyn sef peidio byth â chyflawni trais, ei esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched. Gallwch wneud hyn ar-lein ar wefan Rhuban Gwyn y DU."
I wneud yr addewid, ewch i www.whiteribbon.org.uk a chwilio am addewid y Rhuban Gwyn.
Mae Cyngor Sir Powys yn sefydliad sydd wedi'i achredu gan y Rhuban Gwyn sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng nghymunedau Powys, gwella ei ddiwylliant ei hun yn y gweithle a sicrhau diogelwch ei weithwyr benywaidd.
Mae'r Rhuban Gwyn yn gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched drwy annog dynion a bechgyn i wneud newidiadau i'r ffordd maen nhw'n ymarweddu ac yn ymddwyn: https://www.whiteribbon.org.uk/
Eleni, bydd yr elusen yn amlygu'r canlynol:
- Dywed 70% o ferched yn y DU eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus. (APPG ar gyfer Menywod y Cenhedloedd Unedig, 2021)
- Mae tair o bob pump o ferched wedi profi aflonyddu rhywiol, bwlio neu gam-drin geiriol yn y gweithle. (Cyngres yr Undebau Llafur, 2023)
- Mae 17% o ferched yng Nghymru wedi profi trais ar-lein. (Yr Athro Olga Jurasz, Y Brifysgol Agored, 2024)
- Dywedodd bron i chwarter (24%) y merched mewn ysgolion rhyw cymysg eu bod wedi cael profiadau o gyffwrdd rhywiol diangen yn yr ysgol. (EVAW, 2023)
- Profodd 1.4 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. (ONS, 2023)
- Mae 63% o ddynion yn cytuno nad yw dynion mewn cymdeithas yn gwneud digon i sicrhau diogelwch menywod a merched. (YouGov, 2021)