Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Preswylwyr Powys yn dangos cefnogaeth i Ddiwrnod Rhuban Gwyn

Image of this year’s walks in Brecon, Llandrindod Wells and Newtown

27 Tachwedd 2024

Image of this year’s walks in Brecon, Llandrindod Wells and Newtown
Daeth preswylwyr Powys ynghyd i gefnogi rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched wrth gyflawni teithiau cerdded Rhuban Gwyn yn y sir yr wythnos hon.

Trefnodd Cyngor Sir Powys y teithiau cerdded fel rhan o'r Diwrnod Rhuban Gwyn, a gynhaliwyd ddydd Llun, 25 Tachwedd. Cynhaliwyd y teithiau cerdded yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd.

Eleni, anogodd elusen y Rhuban Gwyn fwy o ddynion i gymryd rhan mewn newid ymddygiad ac agweddau niweidiol ar sail rhyw drwy ddefnyddio'r thema 'Mae'n Dechrau Gyda Dynion'.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Phrif Lysgennad Rhuban Gwyn: "Gallwn atal trais yn erbyn menywod a merched gyda'n gilydd. Mae'n Dechrau Gyda Dynion.

"Mae trais yn erbyn menywod a merched wedi'i wreiddio mewn nodweddion gwrywaidd niweidiol. Gan ddechrau gyda dynion, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r agweddau ac ymddygiadau sy'n cyfrannu at ofn trais i fenywod yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

"Rwy'n gofyn i ddynion a bechgyn ym Mhowys wneud addewid y Rhuban Gwyn sef peidio byth â chyflawni trais, ei esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched. Gallwch wneud hyn ar-lein ar wefan Rhuban Gwyn y DU."

I wneud yr addewid, ewch i www.whiteribbon.org.uk a chwilio am addewid y Rhuban Gwyn.

Mae Cyngor Sir Powys yn sefydliad sydd wedi'i achredu gan y Rhuban Gwyn sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng nghymunedau Powys, gwella ei ddiwylliant ei hun yn y gweithle a sicrhau diogelwch ei weithwyr benywaidd.

Mae'r Rhuban Gwyn yn gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched drwy annog dynion a bechgyn i wneud newidiadau i'r ffordd maen nhw'n ymarweddu ac yn ymddwyn: https://www.whiteribbon.org.uk/

Eleni, bydd yr elusen yn amlygu'r canlynol:

  • Dywed 70% o ferched yn y DU eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus. (APPG ar gyfer Menywod y Cenhedloedd Unedig, 2021)
  • Mae tair o bob pump o ferched wedi profi aflonyddu rhywiol, bwlio neu gam-drin geiriol yn y gweithle. (Cyngres yr Undebau Llafur, 2023)
  • Mae 17% o ferched yng Nghymru wedi profi trais ar-lein. (Yr Athro Olga Jurasz, Y Brifysgol Agored, 2024)
  • Dywedodd bron i chwarter (24%) y merched mewn ysgolion rhyw cymysg eu bod wedi cael profiadau o gyffwrdd rhywiol diangen yn yr ysgol. (EVAW, 2023)
  • Profodd 1.4 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. (ONS, 2023)
  • Mae 63% o ddynion yn cytuno nad yw dynion mewn cymdeithas yn gwneud digon i sicrhau diogelwch menywod a merched. (YouGov, 2021)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu