Strategaeth Ddrafft Newydd Adnoddau Cynaliadwy Powys
3 Rhagfyr 2024
Mae Strategaeth Ddrafft Adnoddau Cynaliadwy Powys (2025-2030) yn gynllun cynhwysfawr sydd â'r nod o greu dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy i Bowys a chenedlaethau'r dyfodol. Wedi'i datblygu mewn partneriaeth â WRAP Cymru a Phartneriaethau Lleol, sy'n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru ill dwy, mae'r strategaeth yn adeiladu ar gynnydd sylweddol y sir o ran lleihau ac ailgylchu gwastraff dros y degawd diwethaf ac yn mynd i'r afael â'r heriau parhaus a achosir gan yr argyfwng hinsawdd byd-eang ochr yn ochr â'r hyn sy'n llywio newidiadau cenedlaethol a lleol eraill.
Mae'r nodau a'r camau gweithredu yn y strategaeth yn ffurfio cynllun cynhwysfawr sy'n dilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff i leihau gwastraff, hyrwyddo ailddefnyddio ac ailgylchu, a phontio tuag at economi gylchol. Pum prif nod y strategaeth yw:
• Lleihau, Ailddefnyddio, Atgyweirio: Atal cynhyrchu gwastraff, ymestyn hyd oes y cynnyrch, a hyrwyddo economi gylchol.
• Ailgylchu: Cyflawni a rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70%.
• Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref: Cynyddu cyfraddau ailgylchu ac ailddefnyddio mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
• Ymwybyddiaeth a Gorfodi: Gwella sut mae gwastraff yn cael ei reoli a lleihau gweithgareddau anghyfreithlon fel tipio anghyfreithlon.
• Seilwaith: Datblygu a chynnal seilwaith i gefnogi rhagor o ailgylchu a datgarboneiddio.
"Fel sir rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu wrth gynyddu'r swm rydym yn ei ailgylchu." Eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar Gyfer Powys Wyrddach. "Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld gostyngiad o 24,000 tunnell yn y gwastraff a gynhyrchir gennym, ac mae ein cyfradd ailgylchu wedi codi o 52.5% i dros 68%. Bydd y llwyddiant hwn wedi cyfrannu at y ffaith mai Cymru yw'r genedl ailgylchu ail orau yn y byd.
"Wrth i ni edrych ymlaen, rydym yn parhau i wynebu llawer o heriau gan gynnwys ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang, a'r angen i ddiogelu adnoddau cyfyngedig naturiol ein planed. Rhaid i ni sicrhau ar y cyd bod y gwasanaethau a ddarperir gennym yn helpu pobl Powys i wneud eu rhan i leihau eu heffeithiau ar ein hinsawdd a'r amgylchedd fel eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Trwy weithredu'r camau gweithredu o fewn y strategaeth, ein nod yw cydweithio â chymunedau Powys i leihau gwastraff, hyrwyddo ailddefnyddio ac atgyweirio, a chynyddu ailgylchu.
"Wrth ddatblygu strategaethau, mae'n bwysig cynnwys ein rhanddeiliaid yn y broses. Byddwn yn cynnal ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd 12 wythnos o hyd, lle byddwn yn ceisio cael barn preswylwyr, aelodau, sefydliadau partner a gweithleoedd ar y polisi drafft. Bydd lleisiau ein rhanddeiliaid yn helpu i sicrhau bod y strategaeth yn gynhwysfawr, yn ymarferol ac yn cael ei chefnogi gan y gymuned a bydd yn dylanwadu ar benderfyniadau a darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol ledled Powys."
"Gyda'n gilydd gallwn leihau ein heffaith amgylcheddol, lleihau ein hôl troed carbon, symud tuag at economi gylchol gynaliadwy lle mae adnoddau'n cael eu gwerthfawrogi a heb eu gwaredu, a sicrhau dyfodol gwyrddach i bawb."