Llwyddiant i Dîm Ailsefydlu Wcreiniaid Powys yn y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel
5 Rhagfyr 2024
Gwaith Tîm Ailsefydlu Wcreiniaid Powys oedd cyd-enillwyr Gwobr Cydraddoldebau, Cynhwysiant a Chydlyniant yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2024, a gynhaliwyd gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Mae'r gwobrau, a gynhaliwyd ddydd Iau 28 Tachwedd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam ac a gyflwynwyd gan ddarlledwr y BBC John-Paul Davies, yn dathlu ac yn arddangos y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ledled Cymru i atal, lleihau a gwneud cymunedau'n fwy diogel.
Dyma'r eildro i'r cyngor gael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel, ar ôl i Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt, dan arweiniad y cyngor, ennill Gwobr Diogelwch y Cyhoedd y llynedd.
Mae Tîm Ailsefydlu Wcreiniaid Powys yn cefnogi ceiswyr noddfa i ddod yn hunangynhaliol a gwneud y mwyaf o gefnogaeth a diogelwch gwesteion Wcreinaidd wrth gefnogi cymunedau cydlynol a lleihau'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus ehangach.
Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r tîm arbenigol wedi croesawu a chefnogi 167 o grwpiau teuluol sy'n cynnwys 398 o unigolion. Ar hyn o bryd, mae 103 o grwpiau teuluol sy'n cynnwys 267 o unigolion wedi ymgartrefu ym Mhowys.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Diogel: "Hoffwn longyfarch Tîm Ailsefydlu Wcreiniaid Powys am eu llwyddiant yng Ngwobrau Cymunedol Mwy Diogel eleni.
"Rwyf mor falch bod eu gwaith wedi cael ei gydnabod gan y wobr bwysig hon. Maent wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i sicrhau bod ein gwesteion Wcreinaidd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i integreiddio i'n cymunedau a gwneud y sir hon yn gartref iddynt."