Y Llyfrgell i gau cyn symud i adeilad yr amgueddfa
5 Rhagfyr 2024
Bydd y llyfrgell, sydd wedi'i lleoli yn y Gwalia ar hyn o bryd, ar gau o ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr ac yn ailagor yn ei chartref newydd ar lawr gwaelod Amgueddfa Sir Faesyfed ddydd Llun 6 Ionawr 2025.
Bydd yr amgueddfa wedi'i lleoli i fyny'r grisiau ond ni fydd yn ailagor tan fis Ebrill 2025.
Mae'r symudiad yn dilyn yr un model darparu gwasanaethau ag a fabwysiadwyd yn Aberhonddu, Llanidloes a'r Trallwng lle mae amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn rhannu gofod, adnoddau a staffio. Mae'n digwydd wrth i'r cyngor gymeradwyo cael gwared ar y Gwalia yn gynharach eleni felly roedd angen cartref newydd ar gyfer y llyfrgell.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Ddiogelach: "Mae ein llyfrgelloedd a'n hamgueddfeydd yn fannau y gellir ymddiried ynddynt, am ddim i fynd i mewn ac yn agored i bawb. Mae darparu gwasanaeth ar y cyd o un adeilad yn golygu y gallwn ddarparu dyfodol cynaliadwy a hirdymor i'r ddau tra'n parhau i gyflawni ac ymestyn y manteision iechyd a llesiant y gall llyfrgelloedd ac amgueddfeydd eu cynnig."
Mae'r symudiad yn enghraifft gadarnhaol o sut y gellir ail-fodelu gwasanaethau'r cyngor i wella canlyniadau tra'n gwneud arbedion tymor hirach. Mae'r ethos hwn yn ganolog i Bowys Gynaliadwy, dull gweithio y mae'r cyngor yn ei ddefnyddio i fod yn arloesol ac yn rhagweithiol er mwyn ail-feddwl sut y caiff gwasanaethau eu darparu i fodloni pwysau cyllidebol yn y dyfodol.
Pan fydd y llyfrgell yn ailagor, bydd yn parhau i gynnig ystod dda o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg, adnoddau digidol, gwybodaeth a chymorth ynghylch cael mynediad at wasanaethau'r cyngor, ac argraffu wi-fi.
Mae darllenwyr ledled Powys hefyd yn cael eu hatgoffa bod gan y cyngor:
- Wasanaeth Dod o Hyd i Lyfr.
- Tudalen Dod o Hyd i Lyfrgell.
- Tudalen Ymuno â'r Llyfrgell.
- Gwasanaeth eLyfrau, ELyfrau Llafar ac eWasg (papurau newydd).
- Gwasanaeth eGylchgronau.
Gellir cael mynediad at yr holl wasanaethau hyn, a mwy, drwy wefan StoriPowys, sef y cartref arlein newydd ar gyfer holl Wasanaethau Celfyddydau a Diwylliant y cyngor.
"Mae Amgueddfa Sir Faesyfed yn casglu ac yn gofalu am wrthrychau sy'n adlewyrchu amrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y sir," ychwanegodd y Cynghorydd Church.
"Gyda'i gilydd bydd y llyfrgell a'r amgueddfa yn trefnu ac yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, o amseroedd stori cyn-ysgol i ddigwyddiadau sy'n ystyriol o ddementia."