Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Y Llyfrgell i gau cyn symud i adeilad yr amgueddfa

Picture of a computer in a library

5 Rhagfyr 2024

Picture of a computer in a library
Bydd Llyfrgell Llandrindod yn cau ei drysau am fis wrth iddi baratoi i symud y pellter byr i'r un adeilad ag Amgueddfa Maesyfed, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys.

Bydd y llyfrgell, sydd wedi'i lleoli yn y Gwalia ar hyn o bryd, ar gau o ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr ac yn ailagor yn ei chartref newydd ar lawr gwaelod Amgueddfa Sir Faesyfed ddydd Llun 6 Ionawr 2025.

Bydd yr amgueddfa wedi'i lleoli i fyny'r grisiau ond ni fydd yn ailagor tan fis Ebrill 2025.

Mae'r symudiad yn dilyn yr un model darparu gwasanaethau ag a fabwysiadwyd yn Aberhonddu, Llanidloes a'r Trallwng lle mae amgueddfeydd a llyfrgelloedd yn rhannu gofod, adnoddau a staffio. Mae'n digwydd wrth i'r cyngor gymeradwyo cael gwared ar y Gwalia yn gynharach eleni felly roedd angen cartref newydd ar gyfer y llyfrgell.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Ddiogelach: "Mae ein llyfrgelloedd a'n hamgueddfeydd yn fannau y gellir ymddiried ynddynt, am ddim i fynd i mewn ac yn agored i bawb. Mae darparu gwasanaeth ar y cyd o un adeilad yn golygu y gallwn ddarparu dyfodol cynaliadwy a hirdymor i'r ddau tra'n parhau i gyflawni ac ymestyn y manteision iechyd a llesiant y gall llyfrgelloedd ac amgueddfeydd eu cynnig."

Mae'r symudiad yn enghraifft gadarnhaol o sut y gellir ail-fodelu gwasanaethau'r cyngor i wella canlyniadau tra'n gwneud arbedion tymor hirach. Mae'r ethos hwn yn ganolog i Bowys Gynaliadwy, dull gweithio y mae'r cyngor yn ei ddefnyddio i fod yn arloesol ac yn rhagweithiol er mwyn ail-feddwl sut y caiff gwasanaethau eu darparu i fodloni pwysau cyllidebol yn y dyfodol.

Pan fydd y llyfrgell yn ailagor, bydd yn parhau i gynnig ystod dda o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg, adnoddau digidol, gwybodaeth a chymorth ynghylch cael mynediad at wasanaethau'r cyngor, ac argraffu wi-fi.

Mae darllenwyr ledled Powys hefyd yn cael eu hatgoffa bod gan y cyngor:

Gellir cael mynediad at yr holl wasanaethau hyn, a mwy, drwy  wefan StoriPowys, sef y cartref arlein newydd ar gyfer holl Wasanaethau Celfyddydau a Diwylliant y cyngor.

"Mae Amgueddfa Sir Faesyfed yn casglu ac yn gofalu am wrthrychau sy'n adlewyrchu amrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y sir," ychwanegodd y Cynghorydd Church.

"Gyda'i gilydd bydd y llyfrgell a'r amgueddfa yn trefnu ac yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, o amseroedd stori cyn-ysgol i ddigwyddiadau sy'n ystyriol o ddementia."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu