Llyfrgell i symud dros dro i fythynnod ar lan y gamlas
10 Rhagfyr 2024
Disgwylir i'r gwasanaeth gael ei leoli ar y safle, ar draws yr iard o'r Lanfa, am oddeutu chwe mis, tra bod estyniad gwydr newydd yn cael ei adeiladu.
Bydd y gwaith yn creu gwagle llawr ychwanegol o dan ardal y canopi a bydd y system wresogi yn cael ei huwchraddio i'w gwneud yn fwy effeithlon. Mae'n ategu ac yn ehangu'r gwaith adnewyddu a wnaed pan symudodd y llyfrgell i'r adeilad yn 2020.
Bydd arddangosfeydd yn cael eu hailfodelu hefyd yn Amgueddfa Powysland, sydd bellach ar gau, er mwyn i hyn ddigwydd.
Bydd Llyfrgell y Trallwng ar agor ar 23 a 24 Rhagfyr, cyn cau ar gyfer y Nadolig a dychwelyd ddydd Gwener 3 Ionawr. Yna bydd ar agor yn ystod ei oriau arferol https://cy.powys.gov.uk/article/8563/Amgueddfa-Powysland-Y-Lanfa, tra yn y bythynnod, ac eithrio ar gyfer dyddiau Llun, pan fydd yn cau am 5 yn lle 6.30pm.
Bydd yn cynnig ei holl wasanaethau arferol ond bydd nifer y llyfrau a chyfrifiaduron sydd ar gael i bori a defnyddio ar y safle yn gyfyngedig. Fodd bynnag, mae iPads a Chromebooks ar gael y gellir eu benthyg allan ac mae darllenwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth Archebu a Chasglu Cyngor Sir Powys: https://www.storipowys.org.uk/order-collect?locale=cy
Mae darllenwyr ledled Powys hefyd yn cael eu hatgoffa bod gan y cyngor y gwasanaethau canlynol:
- Gwasanaeth dod o hyd i lyfr: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/powys_cy
- Tudalen dod o hyd i lyfrgell: https://www.storipowys.org.uk/find-a-library?locale=cy
- Tudalen ymuno â llyfrgell: https://www.storipowys.org.uk/join?locale=cy
- e-Lyfrau, E-lyfrau Llafar ac eWasg (papurau newydd): https://www.storipowys.org.uk/ebooks-eaudiobooks?locale=cy
- Gwasanaeth eGylchgronnau: https://www.storipowys.org.uk/emagazines?locale=cy
Gellir cael mynediad at yr holl wasanaethau hyn, a mwy, drwy wefan StoriPowys https://www.storipowys.org.uk/?locale=cy, sef y cartref ar-lein newydd ar gyfer holl Wasanaethau Celfyddydau a Diwylliant y cyngor.
"Rwy'n falch ein bod yn mynd i allu cadw ein gwasanaeth llyfrgell ar safle Y Lanfa yn y Trallwng, tra bod gwaith yn cael ei wneud i'r prif adeilad," meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Diogel. "Mae'n bwysig cynnal rhywfaint o barhad a bydd ymwelwyr â'r bythynnod yn gallu gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar yr estyniad gwydr, sy'n edrych yn gyffrous iawn.
"Tra bod hyn yn digwydd, byddwn yn annog darllenwyr yn y Trallwng ac mewn mannau eraill ym Mhowys i roi cynnig ar ein Gwasanaeth Archebu a Chasglu. Soniwch wrth staff ein llyfrgell pa fath o lyfr yr ydych yn ei hoffi, a byddan nhw'n dewis llyfrau gwych i chi fwynhau eu darllen."
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn Llyfrgell y Trallwng, tra mae yn ei gartref dros dro, e-bostiwch ylanfa@powys.gov.uk neu ffoniwch: 01938 553001.
Mae gan Y Lanfa ei thudalen Facebook ei hun hefyd: https://www.facebook.com/profile.php?id=100057137242643.
Mae'r gwelliannau i'r Lanfa yn costio tua £1 filiwn ac yn rhan o brosiect Adfer Camlas Trefaldwyn, gwerth £14 miliwn, y bu'r cyngor yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid Llywodraeth y DU tuag ato.
Mae'r cyngor hefyd wedi derbyn £164,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol tuag at y gwaith ar Y Lanfa a £140,000 gan Lywodraeth Cymru tuag at y gwaith ar fythynnod ochr y gamlas.
Mae'r gwaith yn cael ei gefnogi gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor, ac mae ei Dîm Eiddo Strategol yn rheoli'r adeilad.
I gael gwybod rhagor am Brosiect Adfer Camlas Trefaldwyn: https://cy.powys.gov.uk/article/13677/Prosiect-Adfer-Camlas-Trefaldwyn
LLUN: y bythynnod ger y gamlas sydd newydd eu hadnewyddu a fydd yn gartref dros dro i Lyfrgell y Trallwng.