Pwysau cyllidebol
17 Rhagfyr 2024
Er gwaethaf cynnydd o 3.2 y cant yn y Grant Cynnal Refeniw (y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cynghorau) a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae'r cyngor yn wynebu diffyg o £13.5 miliwn yn ei gyllideb. Mae hynny'n golygu y bydd angen cynnydd o 13.5% yn y dreth gyngor i sicrhau bod y Cyngor yn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Dywedodd Arweinydd Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Er ein bod wedi gweld cynnydd yn ein setliad dros dro i lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, y gwir amdani yw nad yw'n ddigon i bontio'r bwlch yn ein costau cynyddol.
"Mae cyfuniad o alw cynyddol am wasanaethau, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, chwyddiant prisiau, costau darparwyr a dyfarniadau cyflog cenedlaethol, yn golygu bod y cyngor yn wynebu rhai penderfyniadau anodd wrth iddo geisio sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2025-26 sy'n ofyniad cyfreithiol.
"Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i ddatblygu strategaeth gyllidebol sy'n diogelu gwasanaethau pwysig fel gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, ysgolion a digartrefedd.
"Rydyn ni'n gwybod bod pobl Powys, fel y cyngor sir, wedi bod yn wynebu amodau ariannol difrifol ers nifer o flynyddoedd. Dyna pam y byddwn ond yn cynyddu Treth y Cyngor i gwrdd â chostau rhedeg gwasanaethau'r Cyngor. Gwyddom fod hyn yn anodd a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r effeithiau ac amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol."
Ychwanegodd, "Mae'n amlwg nad yw cau'r bwlch yn y gyllideb trwy gynnydd yn y dreth gyngor yn unig yn bosibl, felly bydd rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ac o bosibl amhoblogaidd i sicrhau cyllideb gytbwys - rhywbeth y mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i'w wneud."