Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cabinet yn addo hwb ariannol enfawr i ysgolion

Money

18 Rhagfyr 2024

Money
Bydd ysgolion Powys yn derbyn £7.4m ychwanegol y flwyddyn ariannol nesaf os bydd argymhelliad gan Gabinet y Cyngor Sir yn cael ei gymeradwyo fel rhan o'r gyllideb flynyddol.

Argymhellodd cyfarfod o'r cabinet y dylid darparu £7.4m ychwanegol yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion i fodloni pwysau cyflog a gwariant fel rhan o'r gyllideb flynyddol i'w hystyried gan y cyngor llawn ym mis Chwefror.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, y Cynghorydd Pete Roberts: "Mae dyrannu mwy na £7m i ysgolion yn fuddsoddiad sylweddol, mewn blwyddyn lle bydd cydbwyso'r gyllideb gyffredinol yn heriol iawn. Mae'r Cabinet wedi ymrwymo i ariannu egwyddorion y fformiwla yn llawn i sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r Cwricwlwm i Gymru ac i ddarparu'r safonau addysgu a dysgu uchaf i bob person ifanc ym Mhowys, tra'n aros o fewn eu cyllideb.

"Mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn rhoi pwysau sylweddol ar arweinwyr ein hysgolion, cyrff llywodraethu a chymuned ehangach ysgolion. Hoffwn gydnabod y cyd-destun ariannol heriol y mae ein cydweithwyr yn gweithio ynddo a diolch iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad i Addysg ym Mhowys.

"Mae'r ymrwymiad ariannol hwn i ariannu fformiwla'r ysgolion yn llawn yn dangos ymrwymiad y Cabinet i Addysg ym Mhowys," ychwanegodd.

Bydd argymhelliad y Cabinet yn cael ei ystyried gan y cyngor llawn ym mis Chwefror fel rhan o'r broses pennu cyllideb flynyddol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu