Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Dirwyo Perchennog Ci

No dog fouling

19 Rhagfyr 2024

No dog fouling
 Mae perchennog ci o Wolverhampton wedi cael dirwy o £75 gan na wnaethant glirio ar ôl i'w ci wneud ei faw yn y Foel, meddai'r cyngor sir.

Cyhoeddodd tîm Diogelu'r Amgylchedd, Cyngor Sir Powys yr hysbysiad cosb benodedig ar ôl i ddau aelod o'r cyhoedd weld y drosedd a rhoi gwybod i'r cyngor.

Digwyddodd hyn ar 21ain Hydref 2024 yn y Foel. Gyda'r wybodaeth a ddarparwyd, roedd y cyngor yn gallu ymchwilio a chymryd camau priodol a arweiniodd at gyflwyno hysbysiad cosb benodedig i berchennog y ci.

Nawr mae'r cyngor yn atgoffa trigolion a busnesau lleol y gallant roi gwybod i'r cyngor am unrhyw achos o gŵn yn gwneud eu baw ar dir dynodedig fel y gallant ymchwilio i'r mater.

Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel: "Mae'r wybodaeth a ddarparwyd wedi galluogi'r cyngor i ymchwilio a chyflwyno hysbysiad cosb benodedig i'r perchennog ci hwn.

"Rydym yn deall yr effaith a gaiff baw cŵn ar ein cymunedau ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn.  Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, a gall ein trigolion a'n busnesau lleol chwarae rhan hanfodol wrth helpu i fynd i'r afael â hyn ym Mhowys.

"Mae hon yn enghraifft glir y gallwn, drwy gydweithio, fynd i'r afael â baw cŵn yn ein sir."

Mae'r cyngor hefyd yn annog trigolion i adrodd am unrhyw broblemau penodol yn eu hardal ond mae hefyd yn atgoffa perchnogion cŵn bod yn rhaid iddynt glirio ar ôl i'w ci wneud baw a chael gwared ar y gwastraff yn iawn.

"Mae'n drosedd gadael i gi sydd dan eich rheolaeth, hyd yn oed os ydych yn cerdded ci rhywun arall, i wneud ei faw mewn man cyhoeddus a methu â'i glirio'n syth ar ôl hynny," meddai'r Cynghorydd Church.

"Os ydych allan yn cerdded eich ci, dylech bob amser gario bag plastig i godi'r llanast cyn gynted ag y bydd eich ci wedi baeddu a'i roi yn y bin gwastraff ci neu'r bin sbwriel agosaf neu ei waredu gartref."

Os hoffech roi gwybod am achos penodol neu broblem baw cŵn yn eich ardal chi, ebostiwch tls.helpdesk@powys.gov.uk neu ffoniwch 0845 602 7035 neu 01597 827465.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu