Ysgol Yr Eglwys Yng Nghymru Llangors
20 Rhagfyr 2024
Bydd swyddogion o Gyngor Sir Powys, gan gynnwys swyddogion gwella ysgolion, yn cefnogi Ysgol Yr Eglwys Yng Nghymru Llangors ar ôl iddi gael ei rhoi mewn 'mesurau arbennig' gan Estyn yn dilyn arolygiad diweddar.
Nododd Estyn fod "agweddau disgyblion at eu dysgu yn gryfder yn yr ysgol" a bod "bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda, yn canolbwyntio am gyfnodau estynedig o amser, ac yn gwneud eu gorau, hyd yn oed pan fyddant mewn penbleth". Fodd bynnag, roedd yr arolygwyr o'r farn bod angen mesurau arbennig.
Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, sydd wedi'u derbyn gan yr ysgol a'r cyngor, yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol sydd angen eu gwella.
Bydd swyddogion y Cyngor, yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn cydweithio i nodi rhesymau dros ganlyniad yr arolygiad ac i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y daith wella.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys yn Dysgu: "Mae hyn yn hynod siomedig ond nid yn newyddion annisgwyl.
"Rydym yn cydnabod yn llawn ddisgrifiad Estyn o Ysgol Yr Eglwys Yng Nghymru Llangors a'r meysydd i'w gwella y maent wedi'u nodi. Mae'r adroddiad arolygu hwn yn rhoi arweiniad clir ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol.
"Byddwn yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr yr ysgol i wneud i hyn ddigwydd wrth i ni ddechrau ar y daith wella hon a mynd i'r afael â'r argymhellion a gyflwynwyd gan Estyn."
Dywedodd Liz Griffiths, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Yr Eglwys Yng Nghymru Llangors: "Rydym yn amlwg yn siomedig gyda chanlyniad yr adroddiad, ond rydym yn derbyn y canfyddiadau a'r argymhellion yn llwyr.
"Roedd llawer o agweddau cadarnhaol wedi'u nodi yn yr adroddiad gan yr arolygwyr ac rydym yn benderfynol o wneud y newidiadau angenrheidiol i feysydd a amlygwyd a fydd yn ein galluogi i wella deilliannau ar gyfer ein holl ddysgwyr.
"Rwy'n sicrhau ein cymuned ysgol gyfan bod y daith i welliant eisoes ar y gweill ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn.
"Ynghyd â'r cyngor, rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gynllun gwella manwl i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i'n holl ddysgwyr."
I weld yr adroddiad arolygu, ewch i www.estyn.llyw.cymru