Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths
20 Rhagfyr 2024
Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths yn dilyn ei harolwg Estyn a gynhaliwyd ym mis Hydref.
Yn ystod ei arolygiad, canfu Estyn fod yr ysgol yn darparu amgylchedd cefnogol a meithringar lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Fodd bynnag, yn dilyn yr arolygiad, roedd arolygwyr o'r farn bod angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol.
Mae'r ysgol a'r cyngor wedi derbyn yr adroddiad a'r argymhellion, a fydd yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol y mae angen eu gwella.
Bydd yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn gweithio gyda swyddogion y cyngor i nodi'r rhesymau dros ganlyniad yr arolygiad ac i gyflawni'r gwelliannau sy'n ofynnol. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y daith wella.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn cydnabod asesiad Estyn o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon Griffiths a'r meysydd i'w gwella a nodwyd. Mae'r adroddiad arolygu hwn yn rhoi canllawiau clir ar y camau angenrheidiol ar gyfer gwella.
"Byddwn yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr yr ysgol i weithredu'r newidiadau hyn wrth i ni ddechrau ar y daith wella hon a mynd i'r afael ag argymhellion Estyn."
I weld yr adroddiad arolwg ewch i www.estyn.gov.wales