Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Ymgynghoriad Busnes

Image of new British money

7 Ionawr 2025

Image of new British money
Mae busnesau Powys yn cael cyfle i roi sylwadau ar gyllideb refeniw'r cyngor sir ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Mae'r cyngor sir yn gwahodd busnesau i roi sylwadau ar gyllideb refeniw 2025/2026.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae'r gyllideb yn bwysig i fusnesau ledled y sir a thrwy roi cyfle i fusnesau fynegi eu barn ar-lein mae pawb yn cael yr un cyfle i roi eu sylwadau ym mha le bynnag y maen nhw wedi'u lleoli."

Estynnir gwahoddiad i'r rhai sydd â diddordeb i ymweld Cabinet - Dydd Mawrth, 14eg Ionawr, 2025 fydd yn mynd â chi yn syth at bapurau'r Cabinet, sy'n cynnwys holl fanylion cyllideb arfaethedig y Cyngor (ar gael o 9 Ionawr 2025).

Dylid anfon pob ymateb i'r ymgynghoriad at y Pennaeth Cyllid Dros Dro, Neuadd Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG i'r diben hwn erbyn dydd Mawrth 11 Chwefror 2025.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu