Disgyblion ysgol Llanidloes i elwa o lwybr mwy diogel i'r ysgol
8 Ionawr 2025
Cafodd y llwybrau troed presennol eu nodi ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (RhGD) gan randdeiliaid, fel rhai sy'n wael neu'n anaddas ar gyfer gwneud teithiau ar droed, yn enwedig i'r rhai sy'n teithio i'r ysgol ac oddi yno. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn a dyma fydd y cam cyntaf tuag at ddatblygu rhwydwaith teithio llesol lleol ehangach yn y dref.
Bydd y cynllun yn uwchraddio rhan o lwybr troed ar ochr ysgol Ffordd Llangurig i greu llwybr defnydd cyffredin sy'n arwain o gyferbyn â chyffordd Caegwyn yn uniongyrchol i'r ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd ac yn caniatáu i fwy o ddisgyblion a'u teuluoedd gerdded neu seiclo'n ddiogel i'r ysgol ac oddi yno.
"Bydd y prosiect Llwybrau Diogel mewn Teithio Llesol Cymunedol hwn yn Llanidloes yn gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd sydd â phlant yn un o ysgolion y dref." Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach.
"Nid yn unig y bydd y gwelliannau i'r llwybrau yn ei gwneud yn fwy diogel cerdded i'r ysgol, ond bydd hefyd yn annog teuluoedd i adael y car gartref - gwella eu hiechyd a'u lles, lleihau allyriadau carbon a helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir mai teithio llesol yw'r dull naturiol o ddewis ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach ar y cyd â dulliau cynaliadwy eraill, a bydd y buddsoddiad parhaus mewn llwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys, fel y prosiect hwn yn Llanidloes, yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon.
"Bwriedir dechrau ar y gwaith ar y cynllun ym mis Ionawr 2025, a disgwylir iddo bara 12 wythnos. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, gyda rheolaeth traffig ar waith drwy gydol y prosiect. Hoffem ddiolch i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eu hamynedd a'u cydweithrediad."