Y Cabinet i ystyried achos busnes llawn dros adeilad ysgol arbennig Newydd
10 Ionawr 2025
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd i gymryd lle adeilad presennol Ysgol Neuadd Brynllywarch.
Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yn Ceri ger y Drenewydd, yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 8 a 19 oed, gydag ystod eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol cymhleth.
Bydd y cynlluniau buddsoddi yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
Bydd yr achos busnes llawn yn cael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ddydd Iau, 16 Ionawr cyn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Iau, 4 Chwefror.
Bydd y Cabinet yn clywed mai £12.7m fyddai'r cyllid fyddai ei angen ar gyfer yr ysgol newydd, gyda 75% o'r cyllid yn dod o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Byddai'r 25% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.
Os caiff yr achos busnes llawn ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Nid yw adeilad presennol Neuadd Brynllywarch bellach yn cynnig amgylchedd addas ar gyfer gofynion addysgu a'r cymorth sydd ei angen ar ddisgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol neu gymdeithasol sylweddol.
"Byddai ysgol newydd Brynllywarch yn darparu amgylchedd lle gall staff addysgu ffynnu ynghyd â'r cyfleusterau sy'n diwallu anghenion disgyblion gan roi profiad addysgol mwy pleserus a chyflawn iddynt.
"Os yw'r achos busnes llawn yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru, byddai hyn yn fuddsoddiad enfawr arall yn seilwaith ein hysgolion."
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cyngor wedi darparu ysgol bwrpasol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ar gyfer disgyblion mewn amgylcheddau sy'n briodol i'w hoedran, gan gynnwys:
- Cymorth a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag ymddygiad heriol, anawsterau emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol
- Mannau dysgu priodol i gyflawni'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
- Offer arbenigol, gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi deilliannau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y gorau o'i botensial
- Dosbarthiadau gyda chyfarpar llawn, gydag ardaloedd ar gyfer gwaith grŵp a chyfleusterau hylendid, ynghyd ag ardal ddysgu awyr agored unigol.
Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn gallu cael mynediad at y cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg