Ydych chi'n chwilio am rywle i gadw'n gynnes?
16 Ionawr 2025
Mae'n cynnwys mwy nag 20 o safleoedd lle gallant fod yn sicr o groeso a chymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden wrth gadw'n gynnes.
Mae'r cyfeiriadur ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys a gellir ei weld fel rhestr neu ar fap: Cyfeiriadur Mannau Cynnes
Mae rhai o'r rhai sy'n cymryd rhan yn gwneud cais am arian grant drwy'r cyngor i helpu i dalu eu costau, neu i wneud gwelliannau, ac mae dyfarniadau o hyd at £1,000 yn dal i fod ar gael.
Gall unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol sydd â diddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith ddarganfod mwy a chyflwyno eu manylion ar wefan y cyngor: Creu mannau cynnes i Bowys
"Gall y mannau cynnes hyn fod yn hanfodol i bobl sy'n cael trafferth gwresogi eu cartrefi neu sydd eisiau ychydig o gwmni," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach. "Defnyddiwch nhw, os gallwch chi, ac os gallwch chi ychwanegu lleoliadau mwy addas at ein rhestr, cysylltwch â ni ac ystyriwch wneud cais am grant."
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fannau cynnes ym Mhowys, e-bostiwch: costofliving@powys.gov.uk
Mae'r Cyfeiriadur Mannau Cynnes yn rhan o'r Hwb Costau Byw ar wefan Cyngor Sir Powys, sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor ar ystod o bynciau sy'n ymwneud â chyllid: Hwb Costau Byw
Mae'r cyllid grant ar gyfer mannau cynnes ym Mhowys yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.